Gweithgareddau Adfer Mawndir a Ariannwyd drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) 2020-2023
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ôl Troed Gweithgaredd Adfer
Mae’r set ddata hon yn dangos cyfanswm arwynebedd y mawndiroedd sy’n cael eu hadfer ledled Cymru hyd heddiw. Cyflwynir y data fel ffeil siâp polygon, gyda'r uned fesur yn hectarau.
Gweithgareddau Adfer
Mae’r set ddata hon yn dangos cyfanswm yr arwynebedd, wedi’i fesur mewn hectarau, o waith adfer mawndir a wnaed ledled Cymru hyd heddiw. Cyflwynir y data fel ffeil siâp polygon sy'n cofnodi gweithgareddau adfer. Mae gweithgareddau adfer wedi’u rhannu’n bum grŵp eang: Rheolaeth Hydrolegol, Rheoli Erydiad, Rheoli Coed, Rheoli Llystyfiant a Phori.
Nod Rheolaeth Hydrolegol yw gwrthdroi effaith gweithgareddau niweidiol sydd wedi arwain at newidiadau niweidiol i gyfundrefnau hydrolegol.
Nod Rheoli Erydiad yw lleihau effaith nodweddion erydol fel torlannau mawn a gylïau. Mae’r rhain yn datgelu ardaloedd o fawn moel sy'n dueddol o ddiraddio ymhellach os cânt eu gadael heb eu rheoli.
Nod Rheoli Coed yw lleihau effaith coed ar fawndir. Mae'r rhan fwyaf o dechnegau Rheoli Coed ar gyfer adfer mawndir yn cynnwys planhigfeydd conwydd. Ceir hefyd gweithgareddau sy'n mynd i'r afael â phresenoldeb coed llydanddail.
Nod Rheoli Llystyfiant yw rheoli goruchafiaeth niferoedd bach o rywogaethau toreithiog (e.e. Molinia, Calluna) er mwyn sicrhau adferiad a pharhad llystyfiant corsydd.
Nod gweithgareddau pori yw adfer a rheoli mawndiroedd trwy addasu trefnidadau pori.
Mae'r data wedi'i rannu'n bolygonau gyda cholofnau’n nodi manylion y mathau eang o weithgareddau, safleoedd, sefydliadau darparu, dyddiadau dechrau a gorffen gweithgaredd adfer, a'r flwyddyn ariannol y digwyddodd ynddi.
Ceir rhagor o wybodaeth am strwythur y set ddata yn y ‘Haenen Adfer - Metadata Technegol’.
Datganiad priodoli
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Dysgwch sut i ddefnyddio dyfeisiau OWS (WMS a WFS)
Data gofodol (6)
- Rheoli Coed
- Ôl troed Gweithgarwch Adfer
- Rheoli Hydroleg
- Pori
- Rheoli Llystyfiant
- Rheoli Erydiad
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad cyhoeddi:
- 22 Awst 2024
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Iaith
- Saesneg