Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan MapDataCymru a’i chynnwys.

 

Defnyddio’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae AbilityNet yn cynnig cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • nid yw rhai tudalennau ac adnoddau wedi’u hysgrifennu’n glir
  • nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau
  • nid oes gan rai dolenni destun i ddisgrifio diben y ddolen
  • mae gan rai delweddau gyferbynnedd gwael

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn cael unrhyw broblemau nad ydynt yn cael eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni.

Er mwyn ein helpu i ddarparu gwybodaeth sy’n diwallu’ch anghenion yn well, dywedwch wrthym ym mha fformat yr hoffech gael y ddogfen. Os ydych yn defnyddio technolegau cynorthwyol, dywedwch wrthym pa rai.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn eich ateb o fewn 15 diwrnod gwaith.

 

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydym wedi ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r  Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Safon AA yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.2, o ganlyniad i’r achosion o beidio â chydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.

 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

 

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae’r materion canlynol wedi’u datrys lle y bo’n bosibl, ond efallai y byddant yn dal i effeithio ar nifer cyfyngedig o dudalennau.

Methu â chyflawni maen prawf llwyddiant: WCAG 2.4.4 A (Diben Dolen (Mewn Cyd-destun)).
Mater dan sylw: Nid yw testun ar ddolen sydd wedi’i gyfuno â chyd-destun y gall rhaglen ei bennu o ddolen yn nodi diben y ddolen.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Nid yw mapiau ar-lein a gwasanaethau mapio, rhai statig a rhai rhyngweithiol, yn hygyrch. Mae’r elfennau hyn mewn categori sy’n cael ei  esemptio rhag cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd.

 

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Ar hyn o bryd rydym yn uwchraddio gwefan MapDataCymru. Rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o faterion diffyg cydymffurfio â hygyrchedd yn cael eu datrys pan fydd yr uwchraddio wedi'i gwblhau. Byddwn yn cynnal prawf llawn o'r wefan ar ôl cwblhau'r uwchraddio ac yn datrys unrhyw faterion sy'n weddill. Disgwylir i hyn gael ei gwblhau erbyn mis Mehefin 2026.

 

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 05 Ebrill 2022. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 07 Hydref 2025.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Medi 2025.

Gwnaethom ddefnyddio Lighthouse ac Axe-core i sganio tudalennau o'r wefan. Gwnaethom gynnal profion awtomataidd ac â llaw. Roedd y tudalennau a sganiwyd yn cynnwys cyfuniad o dempledi craidd, templedi cyffredin a thudalennau cynnwys.

Gwnaethon ni brofi:

Ein prif wefan yn https://mapdata.llyw.cymru.

Detholiad o dudalennau catalog, gan gynnwys

  • 3 tudalen catalog adnoddau map
  • 3 tudalen catalog adnoddau haen
  • 3 tudalen catalog grŵp haen
  • 3 tudalen catalog dogfennau