MapDataCymru: Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer mynediad cyhoeddus
Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y wefan hon ac yn ei gweithredu. Efallai y gofynnir i ddefnyddwyr mynediad cyhoeddus ddarparu eu cyfeiriad e-bost os ydynt yn cymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus. Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer hyn a byddwn yn eu prosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom. Rydym yn prosesu eich data personol mewn sawl ffordd.
Eich rhyngweithiad â’r wefan hon
Mae MapDataCymru yn darparu data agored ac ymarferoldeb i'n defnyddwyr heb gasglu gwybodaeth bersonol.
Fodd bynnag, i weithredu’n gywir mae’r safle yn:
(i) Defnyddio cwcis i storio manylion eich sesiwn.
(ii) Darganfod manylion y math o borwr i sicrhau bod cynllun y mapiau yn gweithio'n gywir ar wahanol sgriniau a dyfeisiau.
(iii) Cofnodi tueddiadau dienw o weithgarwch defnyddwyr i helpu i lywio datblygiadau yn y dyfodol a gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth cyffredinol. Nid ydym yn adnabod person na dyfais unigol o'r data hyn.
Cyfeiriwch at ein prif bolisi preifatrwydd os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut ydym yn defnyddio gwybodaeth sy’n cael ei chasglu gan LLYW.CYMRU.
Ymgyngoriadau ac arolygon
Mae eich barn yn bwysig i ni ac rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth neu awgrymiadau ar gyfer datblygiad pellach, felly o bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost i gysylltu â chi i ofyn am eich profiad o ddefnyddio MapDataCymru neu i'ch hysbysu am nodweddion newydd. Bydd hyn yn hollol wirfoddol.
Rydym yn defnyddio offeryn arolwg MapDataCymru i gasglu adborth gan ddefnyddwyr i'n galluogi i wneud gwelliannau parhaus i'r gwasanaeth. Mae rhai ymgyngoriadau ac arolygon sydd ar gael ar FapDataCymru yn eiddo i feysydd polisi eraill, a bydd ganddynt eu Datganiadau Polisi eu hunain yn unol â hynny.
Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt wrth i ni drafod eich awgrymiadau a'ch sylwadau gyda chi, a byddwn yn eu dileu pan nad oes eu hangen mwyach at y dibenion hyn.
Gallwch ofyn am gael eich tynnu o'r system drwy anfon e-bost atom ar unrhyw adeg. Os nad ydych eisiau inni gysylltu â chi i ddarparu adborth, yna gallwch roi gwybod inni drwy’r un cyfeiriad e-bost.
Eich hawliau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi ac i gael mynediad ato
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu i’r data gael eu prosesu neu i gyfyngu ar hynny
- i'ch data gael eu 'dileu' (mewn rhai amgylchiadau)
- (mewn rhai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Cysylltiadau
I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
MapDataCymru: Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer defnyddwyr cofrestredig
Llywodraeth Cymru sy'n berchen ar y wefan hon ac yn ei gweithredu. Er mwyn gweld setiau data nad ydynt yn rhai cyhoeddus ac i greu a golygu data, rhaid i chi fod yn ddefnyddiwr cofrestredig. Mae'n ofynnol i ddefnyddwyr cofrestredig ddarparu eu henw, eu cyfeiriad e-bost a'u Rhif Adnabod Porth y Llywodraeth fel rhan o'r broses gofrestru. Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer hyn a byddwn yn eu prosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd ynom. Rydym yn prosesu eich data personol mewn sawl ffordd.
Eich rhyngweithiad â’r wefan hon
Mae MapDataCymru yn darparu data agored ac ymarferoldeb i'n defnyddwyr heb gasglu gwybodaeth bersonol.
Fodd bynnag, i weithredu’n gywir mae’r safle yn:
(i) Defnyddio cwcis i storio manylion eich sesiwn.
(ii) Darganfod manylion y math o borwr i sicrhau bod cynllun y mapiau yn gweithio'n gywir ar wahanol sgriniau a dyfeisiau.
(iii) Cofnodi tueddiadau dienw o weithgarwch defnyddwyr i helpu i lywio datblygiadau yn y dyfodol a gwneud gwelliannau i'r gwasanaeth cyffredinol. Nid ydym yn adnabod person na dyfais unigol o'r data hwn.
Cyfeiriwch at ein prif bolisi preifatrwydd os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch sut ydym yn defnyddio gwybodaeth sy’n cael ei chasglu gan LLYW.CYMRU.
Cofrestru
Dim ond i ddefnyddwyr cofrestredig y mae rhai setiau data ar gael. Rydym yn defnyddio Porth Llywodraeth Cyllid a Thollau EM fel dilysydd trydydd parti diogel. Drwy gofrestru cyfrif rydych yn cytuno i gadw at ein polisi defnyddio sy'n berthnasol i'ch rôl.
Rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol gan ddefnyddwyr cofrestredig:
- enw
- cyfeiriad e-bost (eich e-bost gwaith arferol)
- rhif adnabod Porth y Llywodraeth
- eich sefydliad, ac mewn rhai achosion, eich adran
- eich swyddogaeth a'ch gweithredoedd diweddar
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddilysu eich mynediad a'ch dyrannu i grwpiau defnyddwyr priodol ar FapDataCymru, er mwyn sicrhau bod gennych fynediad at y data cywir.
Ar ôl i’r aelodau gael eu neilltuo i grwpiau defnyddwyr byddant yn gallu gweld manylion ei gilydd, gan gynnwys:
- enw
- cyfeiriad e-bost gwaith
- sefydliad, ac mewn rhai achosion adran
- swyddogaeth a chamau gweithredu diweddar
- perchenogaeth adnoddau
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, byddwn yn anfon manylion atoch am sut i fewngofnodi. Dywedwch wrthym os ydych yn credu bod unrhyw un o'r manylion sydd gennym ar eich cyfer yn anghywir.
Gallwch ofyn am gael eich tynnu o'r system drwy anfon e-bost atom ar unrhyw adeg. Os nad ydych am inni gysylltu â chi i roi adborth, gallwch roi gwybod i ni yn yr un cyfeiriad.
Ymgyngoriadau ac arolygon
Mae eich barn yn bwysig i ni ac rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth neu awgrymiadau ar gyfer datblygiad pellach, felly o bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost i gysylltu â chi i ofyn am eich profiad o ddefnyddio MapDataCymru neu i'ch hysbysu am nodweddion newydd.
Rydym yn defnyddio offeryn arolwg MapDataCymru i gasglu adborth gan ddefnyddwyr i'n galluogi i wneud gwelliannau parhaus i'r gwasanaeth. Mae rhai ymgyngoriadau ac arolygon sydd ar gael ar FapDataCymru yn eiddo i feysydd polisi eraill, a bydd ganddynt eu Datganiadau Polisi eu hunain yn unol â hynny.
Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt wrth i ni drafod eich awgrymiadau a'ch sylwadau gyda chi, a byddwn yn eu dileu pan nad oes eu hangen mwyach at y dibenion hyn.
Gallwch ofyn am gael eich tynnu o'r system drwy anfon e-bost atom ar unrhyw adeg.