Mae MapDataCymru yn rhoi gwybodaeth ddaearyddol a gwasanaethau cysylltiedig.

Mae gwybodaeth ddaearyddol yn cynnwys popeth y gellir ei ddangos ar fap, er enghraifft:

  • Meddygfeydd
  • Parthau llifogydd
  • Llygredd sŵn
  • Ardaloedd o amddifadedd

Fel y rhan fwyaf o Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, mae MapDataCymru yn caniatáu ichi chwilio am yr wybodaeth y gallech fod â diddordeb ynddi, y set ddata i gael ei harddangos ar ben y map sylfaenol, a nodweddion o ddiddordeb i’w harchwilio, eu mesur a’u dadansoddi.

Weithiau, gallai’r data ynghylch pwnc o ddiddordeb gael eu casglu gyda’i gilydd (rydym yn galw hyn yn fap) a’u cyflwyno gyda rhai pecynnau a gwybodaeth i gefnogi pwrpas busnes penodol (rydym yn galw hyn yn ap). Ar gyfer defnyddwyr data proffesiynol, mae’r platfform hefyd yn rhoi mynediad uniongyrchol at ddata (drwy API) sydd ar gael i’w defnyddio gan ddatblygwyr meddalwedd neu becynnau meddalwedd cydweddol.

Rydym yn darparu MapDataCymru ar y cyd â phartneriaid eraill o fewn y sector cyhoeddus. Mae’n darparu gwybodaeth ddaearyddol ac offer gan ganolbwyntio ar Gymru.

Y catalog data

Cewch ddod o hyd i ddata o ddiddordeb drwy edrych a chwilio drwy’r catalog (y cyfeirir ato’n aml fel metadata). Mae’r dudalen chwilio yn dangos y setiau data, y mapiau a’r apiau sydd ar gael ichi. Mae gennych yr opsiynau i chwilio/hidlo’r catalog i ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano.

Cewch edrych ar ddata ar fap, eu lawrlwytho i’w dadansoddi neu gysylltu diweddbwyntiau OWS API mewn cymhwysiad GIS. I’r rhai sydd am ddefnyddio y catalog metadata API, mae Gwasanaethau Catalog ar gael yma.

Darllen mwy am y Gwasanaethau Catalog

Syllwr y map

Mae syllwr y map yn caniatáu ichi gyfuno data o’r catalog i ddadansoddi ar yr un map. Cewch hefyd ddod o hyd i fapiau yn y catalog sy’n cynnwys cyfres sy’n bodoli eisoes o ddata cysylltiedig.

Trwyddedu, hawlfraint a chyfyngiadau ar ddata

Cyn belled â phosibl, rydym yn darparu data sydd dan cyn lleied o gyfyngiadau â phosibl, a defnyddir y Drwydded Llywodraeth Agored i hwyluso hynny. Defnyddir Hawlfraint y Goron pan fo buddiannau hanesyddol/masnachol yn parhau i fodoli. Gall data hefyd fod yn drwyddedig oherwydd materion sensitif eraill.

Caiff gwybodaeth drwyddedu a chyfyngiadau eu cynnwys o fewn y metadata. Pan fo cyfyngiadau, byddwch yn cael gweld ac ailddefnyddio’r data yn unol â’r amodau trwyddedu. Os oes gennych fynediad at ddata cyfyngedig trwyddedig, yna rheolir hynny drwy gofrestru.

Rhannu data a chyfrifon MapDataCymru

Gall unrhyw un ymweld â MapDataCymru i edrych ar y catalog cyhoeddus neu i bori drwyddo.

Rydym wedi gwahodd sefydliadau sy’n bartneriaid i gofrestru cyfrifon ar y safle. Gall deiliaid cyfrifon gofrestru ar y safle ac:

  • lanlwythio data
  • creu, golygu ac chadw mapiau
  • rhannu mapiau a data’n gyhoeddus neu’n ddiogel gydag eraill sydd â chyfrifon
  • gweld data a mapiau a rannwyd gan bobl eraill sydd â chyfrifon

Nid yw pob data ar gael yn gyhoeddus ac mae’n bosibl y bydd rhai swyddogaethau wedi’u cyfyngu.Mae’n bosibl hefyd y bydd defnyddwyr yn derbyn ffordd o fewngofnodi i weld ac ail-ddefnyddio data sydd wedi’i gyfyngu.
Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am gyfrannu at MapDataCymru a rhannu data.

Defnyddio Gwasanaeth OGC ar y We (OWS)

Mae OWS (Gwasanaeth OGC ar y We) yn derm cyffredinol ar gyfer gwasanaeth ar y we sydd wedi’i safoni gan y Consortiwm Geo-ofodol Agored (OGC). Mae’r safonau yn cynnwys y Gwasanaeth Map ar y We (WMS) a’r Gwasanaeth Nodweddion y We (WFS).

Wrth edrych ar y catalog, bydd agor tudalen ddata yn rhoi dolen OWS ichi. Yna cewch ddefnyddio’r ddolen hon mewn System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS). Gall meddalwedd GIS megis QGIS ac ArcGIS gysylltu â’r gwasanaeth OWS a thynnu data oddi arno i’w golygu a’u dadansoddi.

Dylai cyfarwyddiadau penodol ar sut i ddefnyddio dolenni OWS fod ar gael yn eich pecyn GIS.

Darllenwch fwy am OWS