Defnyddiwr Cyffredinol:

Telerau ac Amodau

  • Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar y wefan hon ac yn ei gweithredu, fodd bynnag, caiff y rhan fwyaf o’r data eu darparu gan ein sefydliadau partner.
  • Rydym yn ceisio sicrhau bod y wefan yn gweithredu 99% o’r amser. Bydd unrhyw darfu ar wasanaethau arferol (e.e. ar gyfer diweddaru) yn cael ei gynllunio y tu allan i oriau busnes y DU.
  • Ni ddylid cymryd bod dolenni at wefannau a gwasanaethau data sydd y tu allan i MapDataCymru yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r gwasanaethau hynny.
  • Ni allwn warantu y bydd dolenni allanol yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros pa dudalennau cysylltiedig sydd ar gael.
  • Pan fydd ein partneriaid yn cyfrannu data, bydd y platfform yn gwirio am gamgymeriadau cystrawen ond nid am gamgymeriadau o ran cynnwys. Os bydd unrhyw broblemau gyda data, yna rhowch wybod i’r cyhoeddwr gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar gyfer y set ddata.
  • Rydym yn edrych ar gynnwys MapDataCymru i sicrhau nad oes feirysau. Fodd bynnag, rydym yn cynghori/argymhell eich bod yn rhedeg eich rhaglen gwrth-firysau eich hun gan na fyddwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am golledion, darfu neu ddifrod, a allai ddigwydd wrth ddefnyddio data sy’n cael eu lawrlwytho o MapDataCymru.
  • Ni ddylech rannu cyfrineiriau defnyddiwr gydag unigolion eraill.

Defnyddio Data

  • Cewch edrych ar ddata, eu lawrlwytho a’u hailddefnyddio ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r hawlfraint a’r drwydded gysylltiedig.
  • Os ydych yn colli data’n ddamweiniol, yna mae’n rhaid ichi roi gwybod i gyhoeddwr y set ddata.
  • Os ydych yn sylwi bod set ddata a ddylai fod dan gyfyngiadau ar gael, yna hysbyswch cymorthMDC@llyw.cymru neu gyhoeddwr y set ddata.

Defnyddio y Map/Ap

  • Gellir cyflwyno gwybodaeth atodol, cyfarwyddiadau trwyddedu a defnydd ar rai mapiau/apiau. Gwiriwch hyn cyn eu defnyddio.

Defnyddiwr Uwch:

Anodi a Golygu

  • Os ydych yn cael golygu neu anodi data gofodol, mae’n rhaid ichi wneud yn siŵr eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n gyson ag anghenion y pwrpas busnes.
  • Wrth gyflwyno priodoleddau a metadata, defnyddiwch y meysydd yn y ffordd a fwriadwyd.
  • Peidiwch â datgelu gwybodaeth sydd o dan gyfyngiadau neu sydd wedi’i thrwyddedu ar set ddata gyhoeddus.
  • Peidiwch â rhoi data bersonol mewn maes nad yw wedi’i gynllunio at y diben hwnnw (e.e. peidiwch â rhoi enwau pobl mewn maes disgrifio priodoledd).

Lanlwytho a chyhoeddi data

  • Bydd angen i bob sefydliad sy’n cofrestru gyda MapDataCymru enwebu rhywun i fod yn gyfrifol am:
    • (i) Cywirdeb y data a gyhoeddir.
    • (ii) Nodi hawlfraint y data, y drwydded neu’r cytundeb rhannu data – sicrhau bod hyn yn cael ei nodi gyda’r set ddata.
    • (iii) Sicrhau bod y data’n parhau i gael eu diogelu yn unol â’r cytundeb (h.y. eich bod yn nodi pwy a gaiff edrych ar y set ddata, ei lawrlwytho, ei golygu a rheoli’r broses o’i chyhoeddi).
    • (iv) Sicrhau bod y metadata’n gyflawn.
    • (v) Sicrhau bod y set ddata’n cael ei diweddaru’n rheolaidd pan fo hynny’n briodol neu ddileu’r set ddata pan ddaw i ben neu pan nad yw’n berthnasol bellach.
  • Ceir defnyddio’r platfform i helpu sefydliadau i fodloni eu rhwymedigaethau o dan Gyfarwyddeb INSPIRE (Cyfarwyddeb 2007/2/EC). Fodd bynnag, nid yw cyhoeddi’ch data ar y platfform yn golygu eu bod yn cydymffurfio’n awtomatig ag INSPIRE.

Sefydliadau sy’n Aelodau

  • Bydd angen i bob sefydliad sy’n cofrestru gyda MapDataCymru enwebu rhywun i fod yn gyfrifol am:
    • (i) Dilysu rhestr o ddefnyddwyr MapDataCymru ar gyfer eu sefydliad.
    • (ii) Cymeradwyo’r rhai hynny sydd â hawliau lanlwytho a chyhoeddi.
    • (iii) Darparu un neu fwy o gyfeiriadau e-bost cyffredinol ar gyfer ymholiadau am setiau data.
    • (iv) Helpu gydag ymholiadau ynghylch setiau data y mae eu sefydliad wedi’u cyhoeddi.
  • Caiff y rhestr defnyddwyr ei harchwilio’n rheolaidd ar adegau y cytunir arnynt er mwyn sicrhau hawliau mynediad digidol i blatfform MapDataCymru. Bydd hynny’n sicrhau bod setiau datan cael eu rhannu gyda’ch sefydliad mewn ffordd a fydd yn parhau’n gyson â’r hawlfraint, y trwyddedau a’r cytundebau rhannu data.

Datblygu’r platfform

  • Caiff MapDataCymru ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd a chyhoeddir y data am ddim.
  • Mae eich barn yn bwysig inni ac rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth neu awgrymiadau am ddatblygiadau pellach i wella ein gwasanaeth ichi.
  • O bryd i’w gilydd, bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i amryfal ddefnyddwyr a sefydliadau am adborth er mwyn sicrhau gwelliant parhaus sy’n gyson â’n polisi preifatrwydd.
  • Gallai datblygu apiau newydd a blaenoriaethu nodweddion newydd gael eu sbarduno hefyd gan gyfraniadau partneriaid.