Pwrpas y set ddata ofodol hon yw rhoi amcan o asedau treftadaeth forol sydd wedi'u cofnodi yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Cynhyrchwyd y set ddata gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a threfnwyd iddi fod ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'n hymrwymiad i wella mynediad at ddata morol a stiwardiaeth y data hwnnw. Byddwn yn archifo data am yr amgylchedd hanesyddol morol yn un o ganolfannau achrededig y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylcheddol Morol (MEDIN).

Mae'r set ddata ofodol hon yn cynnwys data pwyntiau yn ymwneud âr holl asedau treftadaeth forol sydd wedi'u cofnodi yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

1.1 Y Cefndir

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o gofnodi’r amgylchedd hanesyddol daearol a morol. Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yw’r casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru. Ceir yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru fanylion miloedd lawer o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru, ynghyd â mynegai i’r lluniadau, llawysgrifau a ffotograffau a gedwir yng nghasgliadau archifol y Cofnod. Mae’r wybodaeth yn y Cofnod yn cynnwys safleoedd hysbys neu safleoedd a nodwyd a chyfeiriadau dogfennol sy'n rhoi amcan o botensial archaeolegol unrhyw ran o wely’r môr.

Daeth y Comisiwn Brenhinol yn un o ganolfannau archifo data achrededig y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylcheddol Morol (MEDIN) yn 2016. Fel aelod o MEDIN mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y DU i wella mynediad i ddata morol.

1.2 Amlder Diweddaru

Mae’r Cofnod Henebion Cenedlaethol yn adnodd sy’n esblygu’n barhaus. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n gyson yn sgil darganfyddiadau ac ymchwil newydd mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol. Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar Map Data Cymru yn gyfoes, caiff y set ddata ei diweddaru bedairwaith y flwyddyn.

1.3 Darluniadau

Dim ond safleoedd sydd wedi'u cofnodi o fewn amgylchedd morol Cymru sydd yn y set ddata hon. Mae pob cofnod yn tarddu o ddata arolygon geoffisegol morol neu o ffynonellau dogfennol a hanesyddol. Gall cywirdeb lleoliadol pob safle amrywio o ganlyniad i’r deunydd ffynhonnell. Mae lleoli safleoedd yn gywir yn broses barhaus ac adolygir y wybodaeth bob blwyddyn.

1.4 Defnyddio Data

Pan rydych yn defnyddio’r data yma o dan Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y gydnabyddiaeth yma: Mae’r data safle yma o’r Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), cynhyrchwyd gan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). © Hawl Cronfa data’r Goron: CBHC, wedi trwyddedu dan y Drwydded Llywodraeth Agored v3.0.

1.5 Gwybodaeth Arall

Gellir cael gwybodaeth bellach am Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar wefan y Comisiwn Brenhinol. I anfon ymholiadau i CHCC gallwch e-bostio: chc.cymru@cbhc.gov.uk neu ffonio: 01970 621200. https://cbhc.gov.uk/cysylltu-a-ni/ 

Gallwch gyrchu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar-lein am ddim drwy ddefnyddio Coflein, sef cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

 
Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylcheddol Morol (MEDIN) i’w weld yma.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (23)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
NPRN
NMRW_Name
NMRW_Site_
Math_o_Saf
NMRW_Perio
Cyfnod
NMRW_Evide
OSGB_Grid_
KMSQ
Mapsheet
Community
Unitary_Au
Awdurdod_U
Old_County
Hen_Sir
Location_A
LASTUPDATE
Long
Lat
OSGB36_Eas
OSGB36_Nor
URL
Hyperlink

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad creu:
05 Ionawr 2024
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
historic environment, Heritage, Marine, Marine_Plan_Area_Wales
Pwynt cyswllt:
Cyfyngiadau
<p>Pan rydych yn defnyddio&rsquo;r data yma o dan Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y gydnabyddiaeth yma:<strong> Mae&rsquo;r data safle yma o&rsquo;r Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), cynhyrchwyd gan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). &copy; Hawl Cronfa data&rsquo;r Goron: CBHC, wedi trwyddedu dan y <a href="https://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/">Drwydded Llywodraeth Agored v3.0</a>.</strong></p>
Rhifyn
Jan/Ionawr 2024
Iaith
Saesneg
Ei hyd o ran amser
Ion. 5, 2024, canol nos - Ion. 5, 2024, canol nos