Cyfle i chi ddweud eich dweud am lwybrau cerdded, beicio ac olwyno yng Nghastell-nedd Port Talbot!

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn diweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol ac rydym am glywed gennych. P'un a ydych yn cerdded, yn olwyno, yn beicio neu'n frwd dros opsiynau teithio mwy diogel a chynaliadwy, bydd eich adborth yn ein helpu i wella llwybrau pob dydd ledled y fwrdeistref sirol.

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob cyngor yng Nghymru adolygu a gwella ei lwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru ein map presennol yn 2022 ac mae'r amser wedi cyrraedd i'w ddiweddaru i adlewyrchu cynnydd diweddar a llywio gwelliannau yn y dyfodol. /p>

Beth sy'n cael ei ddiweddaru?

Rydym yn adolygu ac yn mireinio'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol i gynnwys:

  • Llwybrau presennol: Llwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, olwyno a beicio.
  • Llwybrau yn y dyfodol: Llwybrau arfaethedig nad ydynt yn bodoli eto neu y mae angen eu gwella er mwyn iddynt fodloni'r safonau gofynnol.

Pam dylwn i lenwi'r arolwg hwn?

Gall Cyngor Castell-nedd Port Talbot geisio am gyllid bob blwyddyn i wella'r llwybrau a ddangosir ar y map. Os nad yw llwybr ar y map hwn, ni all gael cyllid. Felly, mae'n bwysig bod y cyngor yn cael gwybod beth yw barn preswylwyr Castell-nedd Port Talbot am y llwybrau hyn. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y llwybrau sydd bwysicaf i bobl yn cael eu cynnwys ar y map.

Sut i lenwi'r arolwg

Cam 1: Dechreuwch drwy chwyddo'r map i ddod o hyd i'r llwybr rydych am wneud sylwadau amdano. Cliciwch ar y map i ollwng pin.
Cam 2: Ar ôl i chi ddewis lleoliad, llenwch yr arolwg byr isod.

Sylwer: Gall gymryd ychydig eiliadau i lwytho’r map.