Cyfle i chi ddweud eich dweud am lwybrau cerdded, beicio ac olwyno yng Nghastell-nedd Port Talbot!
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn diweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol, a hoffem gael eich mewnbwn! P'un a ydych yn cerdded, yn olwyno, yn beicio neu'n poeni am opsiynau teithio llesol yng Nghastell-nedd Port Talbot, hoffem glywed eich syniadau ar sut i wella'r rhwydwaith.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob cyngor yng Nghymru adolygu a gwella ei lwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cymeradwywyd ein map presennol gan Lywodraeth Cymru yn 2022, ac mae'n bryd i ni ei ddiweddaru nawr gyda'r newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.
Beth sy'n cael ei ddiweddaru?
Bydd y map wedi'i ddiweddaru yn cynnwys:
- Llwybrau presennol: Llwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, olwyno a beicio.
- Llwybrau'r dyfodol: Llwybrau arfaethedig nad ydynt yn bodoli eto neu y mae angen eu gwella er mwyn iddynt fodloni'r safonau gofynnol.
Pam dylwn i lenwi'r arolwg hwn?
Gall Cyngor Castell-nedd Port Talbot wneud cais am gyllid bob blwyddyn i wella llwybrau cerdded a beicio a ddangosir ar fap y Rhwydwaith Teithio Llesol. Os nad yw llwybr ar y map hwn, ni all dderbyn cyllid. Felly, mae'n bwysig bod y cyngor yn cael gwybod beth yw barn preswylwyr Castell-nedd Port Talbot am y llwybrau hyn. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y llwybrau sydd bwysicaf i bobl yn cael eu cynnwys ar y map.
Llenwch yr arolwg
Dechreuwch drwy chwyddo mewn i'r map i ddod o hyd i'r llwybr rydych chi am wneud sylwadau arno. Ar ôl i chi ddewis lleoliad, llenwch yr arolwg cyflym isod.
Cliciwch ar y map i ollwng pin ar lwybr sydd yma nawr neu un o lwybrau’r dyfodol.
Llenwch yr holiadur byr i roi’ch adborth.
Sylwch: Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i’r map i lwytho.