Ymgynghoriad ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol 2026
Dyma’ch Cyfle i Leisio’ch Barn: Helpwch i Lunio Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Benfro
Mae Cyngor Sir Penfro yn diweddaru ei fap rhwydwaith teithio llesol ac rydym am glywed gennych chi!
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, teithio ar olwynion a beicio yn rheolaidd. Cafodd ein map presennol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2022, ac mae'n bryd nawr adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.
Beth sy'n cael ei ddiweddaru?
Bydd y map wedi'i ddiweddaru’n cynnwys:
- Llwybrau presennol: Dyma lwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, symud ar olwynion a beicio, neu’r tair ohonynt.
- Llwybrau’r dyfodol: Llwybrau arfaethedig yw'r rhain nad ydynt yn bodoli eto neu sydd angen eu gwella i fodloni'r safonau gofynnol.
Rydym angen eich adborth
Dyma gam cyntaf ymgysylltu â’r cyhoedd, ac mae eich mewnbwn yn hanfodol. P'un a ydych chi'n cerdded, teithio ar olwynion, yn beicio, neu'n poeni am well opsiynau teithio yn Sir Benfro, rydyn ni eisiau eich syniadau ar sut i wella'r rhwydwaith. .
Yn barod i gymryd rhan?
Dechreuwch drwy chwyddo’r map i ddod o hyd i'r llwybr rydych chi am wneud sylwadau arno.
Sylwer: Efallai y bydd y map yn cymryd ychydig eiliadau i lwytho.

Ar ôl i chi ddewis lleoliad, cwblhewch yr arolwg cyflym isod. Os hoffech wneud sylwadau ar fwy nag un llwybr, gallwch gyflwyno mwy nag un arolwg.
Mae’n rhaid ateb pob cwestiwn sydd wedi’i farcio â * cyn y gallwch ei gyflwyno.