Dweud eich dweud am gerdded, olwyno a beicio yn Abertawe!

Rydym yn diweddaru Map Rhwydwaith Teithio Llesol Abertawe ac rydym am glywed gennych!

P'un a ydych yn cerdded, yn olwyno neu'n beicio, bydd eich adborth yn helpu i wella llwybrau bob dydd ar draws ein cymunedau.

Beth yw'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol?

Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos llwybrau presennol ac yn tynnu sylw at lwybrau y cynllunnir eu huwchraddio neu eu datblygu dros y 15 mlynedd nesaf. Mae'n rhan o ymdrech ledled Cymru i wneud teithiau lleol yn iachach ac yn fwy cynaliadwy, gyda chefnogaeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Pam mae'n cael ei ddiweddaru?

Mae'n ofynnol i bob cyngor yng Nghymru adolygu a gwella ei rwydwaith o lwybrau teithio llesol yn rheolaidd. Gall gwelliannau gynnwys creu llwybrau newydd neu uwchraddio rhai presennol. Er enghraifft, ail-wynebu llwybrau, ehangu llwybrau cerdded neu ychwanegu nodweddion fel cyrbau isel a phalmentydd cyffyrddol i wella hygyrchedd.

Cymeradwywyd map presennol Abertawe yn 2022 – nawr mae'n bryd i ni ei ddiweddaru i adlewyrchu'r cynnydd diweddar ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gyda'ch mewnbwn chi.

Pam mae eich adborth yn bwysig?

Bob blwyddyn, gall Cyngor Abertawe wneud cais am gyllid i wella llwybrau a ddangosir ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Os nad yw llwybr ar y map, ni ellir ei ariannu – felly, mae eich barn yn helpu i wneud yn siŵr bod y llwybrau sydd bwysicaf i chi yn cael eu cynnwys.

Sut i gymryd rhan:

  1. Chwyddwch i mewn ar y map i ddod o hyd i'r lleoliad neu'r llwybr rydych am wneud sylwadau arno..
  2. Cliciwch i ollwng pin yna llenwch arolwg byr.

Sylwer: Gall gymryd ychydig eiliadau i lwytho’r map.

Bydd yr holl ddata'n cael ei gadw'n ddiogel, ac ni fydd unrhyw ganlyniadau'n cael eu cyhoeddi mewn ffordd lle gellid eich adnabod. Mae polisi preifatrwydd y cwmni ar gael drwy fynd i Hysbysiad preifatrwydd - Abertawe. Peidiwch â chynnwys unrhyw fanylion personol yn eich ymatebion.

Dyddiad cau: 11.59pm, 4 Ionawr 2026