Cyfle i Ddweud Eich Dweud: Helpwch ni i Lunio Siâp Rhwydwaith Teithio Llesol Torfaen

Mae Cyngor Torfaen yn diweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol - ac rydyn ni eisiau clywed wrthoch chi!

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu eu llwybrau troed, olwynion a beiciau yn rheolaidd, a’u gwella. Cymeradwyodd Llywodraeth Cymru y map sydd gennym ar hyn o bryd yn 2022, a nawr mae'n amser i ni adlewyrchu'r newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd ddiwethaf.

Beth sy’n cael ei Ddiweddaru?

Bydd y map newydd yn cynnwys:

  • Llwybrau sydd yma nawr: Mae’r rhain yn llwybrau sy’n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau troed, olwynion neu feiciau (neu bob un o’r tri).
  • Llwybrau’r dyfodol: Mae’r rhain yn llwybrau sydd ddim yn bodoli eto neu y mae angen eu gwella arnom er mwyn bodloni’r safonau gofynnol.

Mae Angen eich Adborth Arnom

Dyma’r cam cyntaf wrth i ni ymgysylltu â’r cyhoedd, ac mae’ch mewnbwn chi yn holl bwysig. Efallai eich bod chi’n cerdded neu’n teithio ar olwynion neu feic, neu’n poeni am opsiynau teithio gwell. Beth bynnag yw’r rheswm, rydyn ni eisiau clywed eich syniadau chi am y ffordd y gallwn ni wella’r Rhwydwaith.

Sut i Gynnig Sylwadau

Chwyddwch y map isod i gyrraedd y lle sydd o ddiddordeb i chi.
Cliciwch ar y map i ollwng pin ar lwybr sydd yma nawr neu un o lwybrau’r dyfodol.
Llenwch yr holiadur byr i roi’ch adborth, gan gynnwys:

  • Rhif Adnabod y Llwybr rydych chi’n cynnig sylwadau amdano
  • • Beth ydych chi’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi am y llwybr
  • • Awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, er enghraifft: lledaenu’r llwybr troed, goleuadau, cyrbau isel a phalmentydd y gallwch eu teimlo, draenio
  • • Unrhyw sylwadau eraill, er enghraifft: sbwriel, baw cŵn, parcio ar y palmant, terfyn cyflymder

Sylwch: Efallai y bydd yn cymryd ychydig o amser i’r map i lwytho.

Barod i Gymryd Rhan?

Dechreuwch trwy chwyddo’r map i ddod o hyd i’r llwybr yr ydych chi eisiau cynnig sylwadau amdano. Unwaith fyddwch chi wedi dewis lleoliad, llenwch yr holiadur byr isod: