Cerdded, olwyno a seiclo yn Nhorfaen – dywedwch eich dweud!

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru wella a chynyddu eu llwybrau teithio llesol yn barhaus a chynllunio sut y bydd llwybrau’n uno i ffurfio rhwydweithiau fel y gall pobl symud o gwmpas yn haws ar feic neu ar droed ar gyfer eu teithiau bob dydd i'r gwaith, yr ysgol a chyrchfannau lleol eraill.

Ar ôl cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gynnal ymgynghoriad statudol i roi cyfle i'r cyhoedd wirio bod ei barn wedi'i chymryd i ystyriaeth. Dyma'r cam y mae Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi'i gyrraedd. Rydym yn awr yn gofyn:

  • Ydyn ni wedi nodi’r llwybrau cywir ar gyfer gwella (llwybrau’r dyfodol)?
  • Ydyn ni’n gywir yn ein hasesiad o lwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau a gytunwyd (llwybrau cyfredol)?
  • Ydyn ni wedi nodi’r llwybrau newydd priodol i gyd?

1) A wnaethoch chi gymryd rhan yn ymgysylltiad ar-lein teithio llesol Torfaen?
2) Ydyn ni’n gywir yn ein hasesiad o lwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau a gytunwyd (llwybrau cyfredol)?
3) Ydych chi’n credu y bydd y rhwydwaith o lwybrau arfaethedig (y dyfodol) a ddangosir ar y map hwn yn eich annog i gerdded, olwyno a/neu seiclo mwy ar gyfer teithiau pob dydd?
4) Oes yna lwybrau ar goll o’r rhwydwaith arfaethedig a fyddai’n eich helpu i wneud teithiau llesol pob dydd?