Cofnodi Enwau Lleoedd Cymraeg
Helpwch ni i gofnodi enwau lleoedd sydd ddim yn ymddangos ar fapiau digidol
Rydyn ni am wneud yn siŵr bod cynifer o enwau lleoedd yng Nghymru â phosib yn cael eu casglu a’u rhannu, er mwyn iddyn nhw gael eu defnyddio nawr a chan genedlaethau’r dyfodol. Cyn dechrau, cymerwch funud i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd er mwyn deall sut caiff eich data ei ddefnyddio.
Mae nifer o enwau Cymraeg a hanesyddol yn bodoli sydd ddim yn ymddangos ar fapiau ar-lein ar hyn o bryd. Gall y rhain fod yn enwau ar gyfer:
- mynyddoedd a bryniau
- nentydd a rhaeadrau
- caeau a nodweddion amaethyddol
- nodweddion tirweddol eraill
- tai
- busnesau
- pontydd
- hen felinau, gweithfeydd neu ffatrïoedd
- adfeilion
Os oes gennych enwau ar gyfer y rhain, neu unrhyw elfennau eraill yn ein hamgylchedd naturiol, tirweddol neu adeiledig, gallwch helpu drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon i’w cofnodi. Byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda Wicipedia, Mapio Cymru / Open Street Map, a’r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, fel bo’r enwau’n ymddangos ar gymaint o adnoddau â phosibl, gan annog gymaint o bobl â phosibl i’w defnyddio.
Gallwch ein helpu i gofnodi enwau lleoedd drwy lenwi’r ffurflen isod. I wneud hynny:
- Dewch o hyd i’r lleoliad lle dylai’r enw fod ar y map. Gallwch chwyddo’r ardal a symud o gwmpas gan ddefnyddio’ch llygoden neu’r botymau ar ochr dde y map.
- Cliciwch ar y map unwaith i ddewis lleoliad yr enw yr hoffech ei ychwanegu. Os yw’r enw’n gysylltiedig ag ardal eang neu nifer o leoliadau (e.e. coedwig), ceisiwch leoli’r pwynt tua chanol y lleoliad.
- Llenwch y meysydd gwybodaeth sy’n dilyn. Mae meysydd gyda * arnynt yn rhai gorfodol.
- Cliciwch ar Cyflwyno.
Lanlwytho ffotograffau
- Os hoffech, gallwch gynnwys ffotograffau o’r man rydych yn ei gofnodi.
- Peidiwch â thynnu llun sy’n cynnwys pobl.
- Os ydych yn lanlwytho ffotograff sy’n cynnwys eiddo rhywun arall, rhaid i chi gael eu caniatâd yn gyntaf.
- Gwnewch yn siŵr fod lluniau’n cael eu tynnu o fan cyhoeddus, sydd â hawl tramwy cyhoeddus, neu gyda chaniatâd y perchennog.
- Os oes gennych rywbeth a allai helpu i ddangos graddfa (e.e. bag, ffon gerdded, potel ddŵr ac ati), gosodwch ef yn y ddelwedd, gan wneud yn siŵr nad yw’n gorchuddio rhywbeth pwysig.
Helpwch ni i gofnodi enwau lleoedd Cymraeg sydd ddim yn ymddangos ar fapiau digidol