Mapio cynefinoedd ar gyfer gwarchod a rheoli de Mor Iwerddon (HABMAP)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Sefydlwyd prosiect HABMAP mewn ymateb i’r angen am well ymwybyddiaeth gofodol o ddosbarthiad cynefinoedd ym Môr De Iwerddon. Mae’r gwaith hwn wedi cynhyrchu mapiau o gynefinoedd gwely’r môr gan ddefnyddio technegau modelau rhagfynegol arbennig. Mae Prosiect Ymestyn HABMAP wedi adeiladu ar y dulliau a ddatblygwyd yn y prosiect gwreiddiol, ac yn ailadrodd y gwaith modelu gan ddefnyddio cydraniad uwch / gwell setiau data mewnbwn er mwyn gwella cywirdeb y mapiau rhagfynegol. Mae’r gwaith modelu wedi’i ymestyn hefyd i ymdrin â holl ddyfroedd Cymru (pennwyd y ffiniau gwreiddiol yn ôl ffiniau cyllidol Interreg), gan gynnwys aberoedd afonydd Dyfrdwy a Hafren. Aethpwyd ati i gasglu’r data hwn er mwyn darparu mapiau o gynefinoedd gwely’r môr y gellid eu defnyddio er dibenion cadwraeth a rheoli. Mae’n bosibl defnyddio allbynnau’r prosiect hefyd ym maes cynllunio strategol, gwneud penderfyniadau ynghylch datblygiadau alltraeth, dethol Ardaloedd Morol Dan Warchodaeth, mapio sensitifrwydd a mapio cynefinoedd pysgodfeydd hanfodol. Fodd bynnag, oherwydd y modd y cynhyrchwyd y mapiau, ac oherwydd bod peth data wedi’i fodelu a’i ddeillio, nid yw’n briodol defnyddio’r mapiau fel yr unig dystiolaeth ar gyfer unrhyw gynllunio penodol neu benderfyniad neu asesiad rheoleiddio heb astudiaethau neu dystiolaeth ategol bellach.
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Biota
- Dyddiad cyhoeddi:
- 11 Awst 2017
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Cyfyngiadau
- Cyfyngiadau Eraill
- Iaith
- Saesneg