Canlyniadau Rhaglen Monitro Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) yn safleoedd dynodedig sydd wedi eu diogelu dan Gyfarwyddiaethau Cynefinoedd ac Adar y Gymuned Ewropeaidd. Mae’r Cyfarwyddiaethau yn rhestru mathau o gynefinoedd a rhywogaethau yr ystyrir eu bod angen eu gwarchod fwyaf ar lefel Ewropeaidd. Mewn achos o’r fath mae’n orfodol cael rhaglen sy’n monitro rhywogaethau a chynefin ym mhob rhan o’r safle. Mae’r set ddata hon yn dangos canlyniadau rhaglen fonitro cyflwr nodweddion CNC ar yr ACAoedd a’r AGAoedd ac mae’n cynnwys y data sylfaen a ddefnyddir i boblogi un o ddangosyddion perfformiad corfforaethol CNC. Defnyddir y rhaglen fonitro weithredol i ddiweddaru’r data’n flynyddol.
Mae cyhoeddi asesiadau cyflwr dangosol ar gyfer nodweddion morol yng Nghymru ym mis Ionawr 2018 yn disodli’r wybodaeth ar gyfer nodweddion morol yn yr haen ddata hon. Asesiadau cyflwr dangosol 2018 yw cyngor ffurfiol CNC ar gyflwr ei safleoedd morol Ewropeaidd ac felly dylid defnyddio canlyniadau’r asesiad hwn. Gellir lawrlwytho gwybodaeth ar yr asesiadau a’r adroddiadau eu hunain o’r dolenni canlynol: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/environmental-topics/wildlife-and-biodiversity/find-protected-areas-of-land-and-seas/indicative-feature-condition-assessments-for-european-marine-sites-ems/?lang=cy
Cydnabyddiaeth
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad cyhoeddi:
- 15 Mai 2018
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Cyfyngiadau
- Cyfyngiadau Eraill
- Iaith
- Saesneg