Diben yr astudiaeth hon oedd cynhyrchu gwybodaeth am symiau, tarddiadau (yn ôl sector diwydiant a rhanbarth daearyddol), a thynged (dull rheoli) gwastraff Diwydiannol a Masnachol a gynhyrchwyd gan fusnesau yng Nghymru yn 2018.

Mae’r wybodaeth hon yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru am nifer o resymau gan gynnwys:

-          adrodd ar gynhyrchu gwastraff yn unol â Rheoliadau Ystadegau Gwastraff yr UE 2002;

-          cyfarwyddo datblygiad polisi gwastraff cenedlaethol;

-          monitro cynnydd yn erbyn targedau atal ac ailgylchu gwastraff cenedlaethol;

-          hysbysu cynllunwyr gwastraff a'r rheoleiddiwr; a

-          darparu data i'r diwydiant rheoli gwastraff i gyfarwyddo penderfyniadau buddsoddi.

Casglwyd data o sampl gynrychioliadol o 1,755 safle busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2019 a mis Hydref 2019. Cafodd y data ei grosio gan ddefnyddio data poblogaeth safleoedd busnes y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i lefel ranbarthol a chenedlaethol yng Nghymru. Roedd y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr arolwg hwn yn gymharol ar y cyfan â’r arolygon Diwydiannol a Masnachol blaenorol a gwblhawyd yng Nghymru, y darparodd y rhai mwyaf diweddar ohonynt ddata ar gyfer blwyddyn galendr 2012.

Y manwl gywirdeb ar gyfer cyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd yw +/- 4.54% gyda hyder o 90%.

Cydnabyddiaeth

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Cyrchu dogfen o naturalresourceswales.sharefile.eu
Lawrlwytho metadata

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Cyfyngiadau
Cyfyngiadau Eraill
Iaith
Saesneg