Adnabod

Teitl
Adrodd ar Weithgareddau Cyfleusterau Deunyddiau
Crynodeb

Mae hwn yn arddangos y data samplu mewnbwn ac allbwn chwarterol a adroddir gan weithredwyr, y mae'n ofynnol i gyfleusterau deunyddiau cymwys ei ddarparu o dan y rheoliadau. Nid yw hyn yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol a adroddir gan safleoedd nad yw'n ofynnol iddi gael ei samplu. Câi data ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer y cyfnod cyn 2020 ei gyhoeddi ar Borth WRAP yn flaenorol.

Data a adroddir gan y gweithredwr ei hun yw hwn. Mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i gyfleusterau deunyddiau cymwys ddarparu manylion chwarterol y tunelledd o wastraff cymysg a dderbyniwyd gan bob cyflenwr a'r tunelledd allbwn o bedair ffrwd deunyddiau penodedig. Mae hefyd yn ofynnol i gyfleusterau gymryd samplau o'r deunyddiau mewnbwn ac allbwn a nodi'r ganran gyfartalog o ddeunydd targed, deunydd nad yw’n darged a deunydd na ellir mo’i ailgylchu.

Ar gyfer mewnbynnau gwastraff cymysg, rhaid cymryd samplau ar gyfer pob 125 o dunelli a dderbynnir gan bob cyflenwr (heblaw achosion lle mae'r gwastraff cymysg yn cael ei drosglwyddo i gyfleuster deunyddiau arall er mwyn ei wahanu’n ddeunydd allbwn penodedig). Yn achos deunydd allbwn penodedig, newidiodd yr amlder samplu ar gyfer deunydd allbwn penodedig papur i un sampl fesul pob 60 o dunelli a gynhyrchir, ac yn achos samplu deunydd allbwn penodedig plastig, newidiodd yr amlder i un sampl fesul pob 15 o dunelli a gynhyrchir.

Adroddir yr holl ddata tunelledd gan weithredwyr safleoedd. Mae niferoedd yn seiliedig ar yr holl ffurflenni cywir a gedwir gan CNC ar adeg casglu'r adroddiad. Nid ydynt yn cynnwys ffurflenni gwastraff sy'n weddill neu sy'n aros am weithred sicrhau ansawdd.

Cydnabyddiaeth

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.

Trwydded
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Publication Date
Categori:
Cyfleustodau Cyfathrebu

Systemau a gwasanaethau ynni, dŵr a gwastraff a chyfathrebu. Enghreifftiau: ffynonellau trydan dŵr, geothermol, solar a niwclear o ynni, puro a dosbarthu dŵr, casglu a gwaredu carthion, dosbarthu trydan a nwy, cyfathrebu data, telathrebu, radio, rhwydweithiau cyfathrebu

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Cyfoeth Naturiol Cymru

Nodweddion

Cyfyngiadau
Cyfyngiadau Eraill

Cyswllt

E-bost
opendata@naturalresourceswales.gov.uk
Sefydliad
Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/documents/2648
Tudalen fetadata
/documents/2648/metadata_detail