Mapiau Perygl Llifogydd Cenedlaethol 2019
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mapiau Peryglon Llifogydd Cenedlaethol
Mae'r Mapiau Peryglon Llifogydd a Risg Cenedlaethol yn seiliedig ar fodelu cyffredinol yn unig. Cyhoeddwyd y mapiau i gydymffurfio â Rheoliadau Perygl Llifogydd (2009) a Chyfarwyddeb yr UE (2007/60/EC) a chawsant eu defnyddio i gyfarwyddo’r gwaith o greu cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ledled Cymru. Nid oes gan y mapiau hyn unrhyw statws swyddogol at ddibenion cynllunio neu yswiriant, felly cynghorir y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ddefnyddio'r wybodaeth sydd i’w chael yn Map Asesu Perygl Llifogydd Cymru, y Map Cyngor Datblygu/Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio (fel y bo'n briodol) at y dibenion hyn gan y bydd y rhain yn fwy diweddar ac yn cynnwys gwybodaeth fodelu well.
Mae'r Mapiau Peryglon Llifogydd Cenedlaethol wedi cael eu creu ar gyfer tair ffynhonnell o lifogydd, sef:
- Llifogydd o afonydd
- Llifogydd o'r môr
- Llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain
Mae'r mapiau'n dangos dyfnder y llifogydd, cyflymder (cyflymder a chyfeiriad), peryglon ac ehangder ar gyfer sefyllfaoedd perygl uchel, canolig ac isel heb amddiffynfeydd rhag llifogydd uwch.
Ar gyfer afonydd a dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain, risg uchel yw Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol (AEP) o hyd at 1 mewn 30 o flynyddoedd, risg ganolig yw AEP o rhwng 1 a 30 ac 1 mewn 100 o flynyddoedd, a risg isel yw AEP o rhwng 1 mewn 100 o flynyddoedd ac 1 mewn 1,000 o flynyddoedd.
Ar gyfer y môr, risg uchel yw AEP o hyd at 1 mewn 30 o flynyddoedd, risg ganolig yw AEP o rhwng 1 mewn 30 ac 1 mewn 200 o flynyddoedd, a risg isel yw AEP o rhwng 1 mewn 200 o flynyddoedd ac 1 mewn 1,000 o flynyddoedd.
Mae'r set ddata Llifogydd o Ddŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bychain wedi disodli set ddata gynharach, y Map Llifogydd Diweddaredig ar gyfer Dŵr Wyneb (2013), yn uniongyrchol ac mae'n seiliedig ar fodelu dalgylchoedd dŵr wyneb.
Mae manylion y gwaith modelu i lunio’r Mapiau Peryglon Llifogydd Cenedlaethol newydd ar gael yn y taflenni gwybodaeth ategol.
Cydnabyddiaethau
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gwybodaeth © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Mae rhai nodweddion o'r wybodaeth hon yn seiliedig ar ddata gofodol digidol wedi'i drwyddedu gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU © UKCEH, Asiantaeth yr Amgylchedd © EA a Getmapping Plc a Bluesky International Limited [2015]. DEFRA, y Swyddfa Dywydd ac Asiantaeth Afonydd yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig © Hawlfraint y Goron. © Prifysgol Cranfield. © Sefydliad James Hutton. Yn cynnwys data'r AO © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata. Gwasanaethau Tir ac Eiddo © Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Dyfroedd Mewndirol
- Dyddiad cyhoeddi:
- 01 Hydref 2020
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Cyfyngiadau
- Cyfyngiadau Eraill
- Iaith
- Saesneg