Adnabod
- Teitl
- Arolwg o Sgil-gynhyrchion Gwastraff Adeiladu a Dymchwel
- Crynodeb

Diben yr astudiaeth oedd darparu gwybodaeth am fathau, symiau, tarddiadau (yn ôl y sector Adeiladu a Dymchwel a'r rhanbarth daearyddol), a thynged (dull rheoli) gwastraff Adeiladu a Dymchwel a gynhyrchwyd gan fusnesau a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn 2019. Mae hwn yn arolwg annibynnol ac mae'n disodli'r data o'r arolwg diwethaf ar gyfer blwyddyn galendr 2012. Mae angen y wybodaeth hon am amryw o resymau.

Lefel y manylder ar gyfer cyfanswm y gwastraff a gynhyrchwyd yng Nghymru oedd +/- 16.7% ar hyder o 90%.

Mae cyfyngiadau’n bodoli o ran ansawdd yr amcangyfrifon a gynhyrchir ar gyfer canlyniadau pob arolwg. Er nad yw'r cyfyngiadau hyn yn newid y canlyniadau na'r data ystadegol, dylai defnyddwyr y data eu cadw mewn cof.

Casglwyd data o sampl gynrychioliadol o 508 o safleoedd busnes o wahanol sectorau a meintiau ledled Cymru rhwng mis Ebrill 2021 a mis Medi 2021. Cafodd y data ei grosio gan ddefnyddio data poblogaeth safleoedd busnes y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i lefel ranbarthol a chenedlaethol yng Nghymru.

Roedd y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ddatblygu'r matrics samplu a'r gwaith dilynol o grosio canlyniadau'r arolwg yn seiliedig ar arolygon Adeiladu a Dymchwel blaenorol yng Nghymru i sicrhau y gellid cymharu’r canlyniadau. Cafodd dyluniad y matrics samplu ei hun ei newid ychydig o'r hyn a ddefnyddiwyd yn 2012, drwy gyfuno is-sectorau Adeiladu Cyffredinol yn un sector.

Roedd y matrics samplu’n diffinio faint o safleoedd busnes yr oedd angen eu cyrraedd ar gyfer pob bricsen. Fe'i hadolygwyd ran o'r ffordd drwy'r arolwg i ymgorffori anghysondebau o ran sector neu faint cwmnïau a nodwyd yn set ddata wreiddiol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ystod y broses recriwtio, er mwyn adlewyrchu cyfraddau recriwtio gwirioneddol o fewn briciau.

Mae gwybodaeth am reoli gwastraff yn yr adroddiad yn ddibynadwy ar y cyfan ond mae cywirdeb y canlyniadau wedi'i gyfyngu i'r wybodaeth oedd ar gael i gynhyrchwyr a arolygwyd ar gyrchfannau terfynol eu gwastraff. Mae'r cywirdeb yn gyfyngedig oherwydd cymhlethdodau o ran llwybrau rheoli gwastraff ac anawsterau wrth gysylltu tynged derfynol yn ôl i'r ffynhonnell.

Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth o ran hyder yr arolwg, yn adroddiad cyhoeddedig yr arolwg. Mae atodiadau technegol manwl yr arolwg hefyd ar gael ar gais.

Cydnabyddiaeth

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl.

- Trwydded
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Hawlfraint:
- Publication Date
- 19 Mai 2022
- Categori:
- Amgylchedd
- Rhanbarthau
- Global
- Wedi'i gymeradwyo
- Ydy
- Cyhoeddwyd
- Ydy
- Wedi'i gynnwys
- Nac ydy
- Grŵp
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Nodweddion
Cyswllt
- E-bost
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Sefydliad
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeirnodau
- Dolen ar-lein
- /documents/2938
- Tudalen fetadata
- /documents/2938/metadata_detail