Rydym yn uwchraddio MapDataCymru i sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu platfform dibynadwy, hygyrch a modern ar gyfer cyhoeddi ac archwilio data gofodol yng Nghymru.

Mae'r wefan BETA yn galluogi defnyddwyr i archwilio'r fersiwn newydd o MapDataCymru wrth i'r fersiwn bresennol barhau i fod ar gael. Mae rhedeg y ddwy wefan yn gyfochrog yn rhoi'r cyfle i ddefnyddwyr ymgyfarwyddo â'r gwelliannau a rhoi adborth cyn bod y platfform wedi'i uwchraddio yn disodli'r gwasanaeth presennol yn llawn.

Pam rydym yn uwchraddio?

Mae MapDataCymru yn wasanaeth pwysig a ddefnyddir ledled Cymru i gael mynediad at ddata gofodol a'u rhannu. Mae'r uwchraddio yn sicrhau bod y platfform yn parhau i fod yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn gallu diwallu anghenion defnyddwyr sy'n datblygu.

Mae hefyd yn darparu profiad defnyddiwr wedi'i adnewyddu a sylfaen gryfach ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol.

Beth sy'n wahanol rhwng y wefan bresennol a'r BETA?

Er bod y ddwy wefan yn darparu mynediad at gynnwys MapDataCymru, mae rhai gwahaniaethau yn ystod y cyfnod BETA.

Data a chynnwys

  • Efallai y bydd rhai setiau data yn ymddangos yn wahanol oherwydd newidiadau i'r system neu ffurfweddiadau wedi'u diweddaru.
  • Efallai na fydd data ar y wefan BETA bob amser yn adlewyrchu'r fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael.
  • Mae gwefan bresennol MapDataCymru yn parhau i fod yn ffynhonnell awdurdodol o ddata yn ystod y cyfnod BETA.

Swyddogaeth

  • Efallai y bydd rhywfaint o'r swyddogaeth yn gweithio'n wahanol o gymharu â'r wefan bresennol.
  • Efallai y bydd rhai nodweddion yn dal i gael eu mireinio yn ystod y cyfnod BETA.

Gwelliannau parhaus

Mae'r wefan BETA yn rhan o broses iterus. Byddwn yn parhau i wneud gwelliannau a mireinio cynyddol drwy gydol y cyfnod BETA.

Bydd adborth a gesglir yn ystod y cyfnod hwn yn llywio diweddariadau yn uniongyrchol, gan ein helpu i sicrhau bod y platfform wedi'i ddiweddaru yn diwallu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr.

Defnyddio'r wefan BETA

Gallwch barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth MapDataCymru presennol fel arfer wrth archwilio'r fersiwn BETA. Rydym yn annog defnyddwyr i roi cynnig ar y wefan newydd a rhannu adborth i'n helpu i wella'r gwasanaeth.

Adborth a chymorth

Rydym yn croesawu eich adborth ar wefan BETA MapDataCymru. Bydd eich sylwadau yn ein helpu i nodi gwelliannau a sicrhau bod y gwasanaeth wedi'i uwchraddio yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr.

Os hoffech rannu eich adborth, llenwch ein harolwg byr: Rhoi adborth ar MapDataCymru (BETA) | MapDataCymru

Rydym yn gwerthfawrogi eich amser a'ch mewnbwn wrth i ni barhau i wella'r gwasanaeth.