Cymorth MapDataCymru
Isod fe welwch ddetholiad o fideos cyfarwyddiadol byr. Mae'r fideos hyn wedi'u creu i'ch helpu i wneud y gorau o MapDataCymru. Byddwn yn ychwanegu mwy o fideos fel y bo angen. Os hoffech awgrymu fideo cyfarwyddiadol i'w greu, cysylltwch â ni.
Cyflwyniad i MapDataCymru
Defnyddio Gwasanaeth OGC ar y We (OWS)
Mae OWS (Gwasanaeth OGC ar y We) yn derm cyffredinol ar gyfer gwasanaeth ar y we sydd wedi’i safoni gan y Consortiwm Geo-ofodol Agored (OGC). Mae’r safonau yn cynnwys:
- Gwasanaeth Map Gwe (WMS)
- Gwasanaeth Nodweddion Gwe (WFS)
- Gwasanaeth Teils Map Gwe (WMTS)
- Gwasanaeth Cwmpasu'r We (WCS)
- Gwasanaeth Prosesu’r We (WPS)
Defnyddir y gwasanaethau hyn gan MapDataCymru i ddarparu amrywiol swyddogaethau sy'n gysylltiedig â data gofodol. Wrth bori'r catalog, bydd agor map neu dudalen data gofodol yn darparu dolenni OWS ar gyfer WMS a WFS oni bai bod caniatâd wedi'i gyfyngu.
Yna cewch ddefnyddio’r ddolen hon mewn System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS). Gall meddalwedd GIS megis QGIS ac ArcGIS gysylltu â’r gwasanaeth OWS a thynnu data oddi arno i’w golygu a’u dadansoddi.
Dylai cyfarwyddiadau penodol ar sut i ddefnyddio dolenni OWS fod ar gael yn eich pecyn GIS.