Adnabod

Teitl
Lleoliadau Amddiffynfeydd rhag Llifogydd
Crynodeb

Mae'r Gronfa Ddata Asedau Llifogydd Genedlaethol yn cofnodi'r seilwaith llifogydd yng Nghymru a reolir gan Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae'n cynnwys llawer o argloddiau, waliau, giatiau llifogydd, cwlferi, a sgriniau mewnfeydd (sy'n dal malurion), ond nid pob seilwaith llifogydd sy'n cael ei gynnal neu sy'n eiddo i'r partïon hyn. Mae'r seilwaith yma wedi'i lunio i helpu i reoli'r risg o lifogydd o afonydd a'r môr. Dydyn nhw ddim yn cael gwared ar y risg o lifogydd a gallant fethu mewn tywydd eithafol. Mae tair set ddata ar gael fel data agored.

Lleoliadau'r amddiffynfeydd rhag llifogydd. Mae'r rhain yn dangos aliniad llinellol asedau atal llifogydd sydd wedi'u hadeiladu i amddiffyn rhag llifogydd o afonydd a'r môr. Mae'n cynnwys y math, yr hyd, y sawl sy’n eu cynnal, a manylion adnabod. Mae'r lleoliadau amddiffynfeydd hyn i'w gweld hefyd yn Asesiad Perygl Llifogydd Cymru, y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a mapiau Gweld strwythurau atal llifogydd yn agos atoch chi. Efallai y byddant yn ymwneud ag Ardal sy'n Elwa o Amddiffynfa rhag Llifogydd a pharth TAN15.

Cwlferi (Polylinell); Mae'r rhain yn dangos lleoliad dangosol cwlferi tanddaearol ar gyfer arweiniad cyffredinol yn unig. Mae'r priodoleddau'n cynnwys y sawl sy’n eu cynnal, y perchennog, yr hyd a manylion adnabod. Oherwydd natur a hanes tanddaearol llawer o gwlferi, efallai na fydd y lleoliadau'n gywir, yn gyflawn, neu’n gyfredol.

Agoriadau a Sgriniau Cwlferi (Pwyntiau). Mae'r rhain yn dangos lleoliad dangosol agoriadau a sgriniau cwlferi (y cyfeirir atynt yn aml fel Sgriniau Malurion). Mae'r priodoleddau'n cynnwys y sawl sy’n eu cynnal, y perchennog a manylion adnabod. Efallai na fydd y lleoliadau a’r manylion yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.

Byddwn yn diweddaru'r wybodaeth yn rheolaidd pan fydd data newydd a gwell ar gael. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am leoliad, cyflwr, neu gofnodion o asedau llifogydd, gwiriwch gyda'r perchennog neu'r sawl sy’n eu cynnal.

Mae'r set ddata hon yn seiliedig ar leoliad daearyddol asedau llifogydd yng Nghymru ac mae'n deillio o fesurau 6, 7 ac 8 y Strategaeth Llifogydd Genedlaethol sy'n ceisio dod â'r data hwn at ei gilydd a'i wneud yn hygyrch i'r cyhoedd. Mae'r data'n cael ei gymryd o systemau rheoli asedau a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol canlynol.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Bridgend

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerphilly

Cyngor Caerdydd

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion

Cyngor Dinas Casnewydd

Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Sir Ddinbych

Cyngor Gwynedd

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Powys

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae lleoliad asedau llifogydd ar gyfer arweiniad cyffredinol yn unig. Nid yw'n dangos pob ased llifogydd nac unrhyw erydiad / amddiffyniad arfordirol a reolir gan y cyrff hyn. Gall rhywfaint o'r data fod yn anghywir neu'n hen. Efallai na fyddai rhai o'r asedau tanddaearol yn hysbys neu wedi eu cofnodi'n gywir. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am leoliad, cyflwr neu gofnodion o asedau llifogydd, gwiriwch gyda'r perchennog neu'r sawl sy'n eu cynnal.

Cydnabyddiaeth

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. © Awdurdodau Lleol Cymru.

Trwydded
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Publication Date
Math
Data gofodol
Categori:
Dyfroedd Mewndirol

Nodweddion dŵr mewndirol, systemau draenio a'u nodweddion. Enghreifftiau: afonydd a rhewlifoedd, llynnoedd halen, cynlluniau defnyddio dŵr, argaeau, cerhyntau, llifogydd, ansawdd dŵr, siartiau hydrograffig

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
195300.21875
Estyniad x1
353690.0
Estyniad y0
168338.234375
Estyniad y1
392843.75

Nodweddion

Cyswllt

E-bost
opendata@naturalresourceswales.gov.uk
Sefydliad
Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/layergroups/geonode:nrw_flood_defence_structures
Tudalen fetadata
/layergroups/geonode:nrw_flood_defence_structures/metadata_detail