Adnabod

Teitl
Data Arolwg Pysgod Dŵr Croyw CNC
Crynodeb

Defnyddir pysgod dŵr croyw fel dangosydd statws stoc, ansawdd dŵr a chynefin, rhwystrau artiffisial i fudo, a gofynion llif afonydd oherwydd eu gofynion cylch bywyd penodol. Mae'r set ddata hon yn cynnwys y cyfrif rhywogaethau a’r gwerthoedd hyd o’r arolygon o bysgod mewn afonydd dŵr croyw a gynhaliwyd ledled Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r hyn oedd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Mae'r arolygon hyn yn cael eu cynnal fel rhan o'r gwaith parhaus o fonitro pysgod yn eu hamgylchedd naturiol ar gyfer gofynion deddfwriaethol ac i fodloni ysgogwyr busnes.

Llinach Defnyddir methodoleg gaeth wrth samplu pysgod afonydd dŵr croyw. Mae rhwydwaith craidd o safleoedd sy'n cael eu monitro'n flynyddol, a hefyd arolygon dalgylch cyfan ar raglen dreigl o chwe blynedd. Mae'r safleoedd hyn wedi'u lleoli mewn mathau o gynefin sy'n addas ar gyfer y rhywogaethau pysgod priodol. Yn ogystal, gellir samplu safleoedd ar gyfer gwaith ymchwiliol, neu ar sail ad hoc. Mae ardaloedd samplu fel arfer yn 50 metr o hyd a lled llawn yr afon, a gallant gynnwys gwahanol fathau o lif a swbstrad. Ar gyfer strategaeth arolwg Dalfa Fesul Uned Ymdrech (CPUE), mae'r ymdrech yn seiliedig ar fesuriad amser. Pysgota trydanol yw'r dull samplu a ddefnyddir mwyaf aml, er bod dulliau amgen ar gael ar gyfer gwahanol strategaethau, megis rhwydo a thrapio. Unwaith y bydd sampl o bysgod yn cael ei chasglu, cânt eu hadnabod ar unwaith yn y maes, eu mesur a'u cyfrif, ac yna eu rhyddhau'n fyw i'r un rhan o'r afon lle cawsant eu dal.

Golygiadau

Mae rhywfaint o wybodaeth wedi’i golygu i sicrhau bod y data ar gael yn agored. Mae hyn yn cynnwys:

  • Data trydydd parti
  • Data a gasglwyd ar gyfer ymchwiliadau parhaus
  • Arolygon wedi’u canslo neu heb eu cwblhau

Amlder Diweddaru

Mae'r data hwn yn cael ei ddiweddaru'n barhaus gyda'r rhan fwyaf o arolygon yn cael eu cynnal yn ystod yr haf. Yn aml, nid yw data o dymhorau arolygon yn cael eu mewnbynnu ar adeg eu cipio a gall fod sawl mis cyn iddo gael ei roi yn y system. Mae’r set ddata

allanol yn cael ei diweddaru yn fisol i gynnwys data newydd, a gall hefyd gynnwys cywiriadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd gwaith sicrhau ansawdd.

Rhybuddion Gwybodaeth

  • Mae data arolygon pysgod dŵr croyw ar gael ers 1974 hyd heddiw. Y cafeat yw bod data hanesyddol yn ysbeidiol tan 2001. Mae hyn oherwydd bod data arolygon pysgod a gasglwyd cyn 2001 yn aml yn cael ei gadw mewn cronfeydd data lleol ac nid y rhai cenedlaethol (KiEco ac NFPD gynt).
  • Mae arolygon pysgod yn cael eu cynnal trwy amrywiaeth o ddulliau arolygu ac nid yw'r data o un arolwg o reidrwydd yn gallu cael ei gymharu yn uniongyrchol ag un arall. Er enghraifft, gall cyfanswm y cyfrif pysgod fod yn seiliedig ar arolygon lluosog neu un rhediad neu arolygon Dalfa Fesul Uned Ymdrech (CPUE). Argymhellir y defnyddiwr i wirio'r dull arolygu a ddefnyddiwyd yn y data a ddarperir.
  • Gwnawn ein gorau i osgoi problemau ansawdd data, ond gan fod y setiau data hyn yn adlewyrchu’r data sydd gennym, gallant gynnwys gwallau.
  • Darperir y data fel set o dablau data cysylltiedig oherwydd maint a strwythur y data. Rhagdybir dealltwriaeth sylfaenol o wyddor pysgodfeydd a chronfeydd data perthynol.

Gwybodaeth bellach

Gweler y ddogfen ganlynol am wybodaeth bellach

Gellir gweld a lawrlwytho data'r tacsonau hefyd o Atlas yr NBN. Mae cael mynediad at ddata'r tacsonau fel hyn yn cynnig nifer o fanteision. Gellir ei weld ochr yn ochr ag ystod eang o dacsonau o arolygon eraill a gynhaliwyd gan unigolion a sefydliadau amrywiol. At hynny, gellir archwilio’r tacsonau drwy eu hierarchaeth dacsonomig lawn drwy integreiddio â Rhestr Rhywogaethau’r DU, sef y gronfa ddata fwyaf cynhwysfawr sydd wedi’i churadu o dacsonomeg ac enwau bywyd gwyllt y DU.

Atlas yr NBN

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.

Trwydded
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Dyddiad cyhoeddi
Math
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
146597.199797902
Estyniad x1
355308.0
Estyniad y0
164586.296917809
Estyniad y1
395984.199957072

Nodweddion

Cyswllt

E-bost
opendata@naturalresourceswales.gov.uk
Sefydliad
Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/layergroups/geonode:nrw_freshwater_fish_surveys
Tudalen fetadata
/layergroups/geonode:nrw_freshwater_fish_surveys/metadata_detail

Diweddbwyntiau OWS

WMS
/capabilities/layergroup/6244/?ows_service=wms
WFS
/capabilities/layergroup/6244/?ows_service=wfs