Mae'r cofnodion data yn cynnwys data cynefin cynhwysfawr am Gymru gyfan sy'n deillio o raglen o gofnodion maes a ddechreuwyd gan Uned Faes Cymru, yn rhan o Gyngor Cadwraeth Natur yn 1979 ac a barhawyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn dilyn ail-strwythuro yn 1991. Pwrpas y data hwn yw darparu gwybodaeth ar benderfyniadau polisi, gwaith achos, dewis safleoedd. Gwnaed y gwaith maes mewn dau brif gam. Arolygwyd y rhan fwyaf o'r uwchdiroedd yn ystod y cam cyntaf (Arolwg Llystyfiant Uwchdiroedd), a cafodd ardaloedd eu dosbarthu i fathau o gynefinoedd gan ddefnyddio dosbarthiadau Ratcliffe a Birks. Arolygwyd gweddill Cymru gan gynnwys yr iseldiroedd a rhai ardaloedd uwchdirol nad arolygwyd cynt yn ystod yr ail gam (y cam iseldirol), a cafodd cynefinoedd eu rhoi yn nosbarth Cam I, gyda rhai addasiadau'n cael eu defnyddio ar gyfer defnydd yng Nghymru.

Mae’r set ddata hon yn cynnwys yr haenau canlynol:

  • Voronoi Llystyfiant: Yn dangos ffiniau a phriodoleddau polygonau llystyfiant gydag israniadau polygonau llystyfiant cynefin cymysg yr ucheldir wedi eu hisrannu i’w cynefinoedd cyfansoddol
  • Cynefin: Data pwyntiau yn dangos lleoliad cynefinoedd a fapiwyd mewn polygonau cynefin cymysg yn ystod yr Arolwg Llystyfiant yr Ucheldir
  • Voronoi Mospolys: Grid wedi ei liwio mewn patrwm sgwarog yn ôl Phase1_Code ac mewn cyfrannedd â’u gallu i ganiatáu gweld mosaigau
  • Voronoi Mosnotes: Data pwyntiau i ddisgrifio cyfansoddiad cynefin a wnaed o bolygonau mosäic
  • Llystyfiant Gwasgaredig: data pwyntiau yn dangos lleoliad llystyfiant gwasgaredig
  • Nodiadau Targed: cofnod o leoliad a chyfeirnod nodiadau targed Cam 1
  • Voronoi Mosäic: Tabl pori i gyflenwi mathau o gynefinoedd, ardaloedd a chyfraneddau ar gyfer polygonau mosäic

Gweler y metadata i gael rhagor o fanylion.

Gellir lawrlwytho'r ffeil arddull ar gyfer y data hwn o'r ddolen hon https://naturalresourceswales.sharefile.eu/public/share/web-sc6c559f00cf047c48362659fdbada759 

Cydnabyddiaeth

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (0)

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Biota

Fflora a / neu ffawna yn yr amgylchedd naturiol. Enghreifftiau: bywyd gwyllt, llystyfiant, gwyddorau biolegol, ecoleg, anialwch, morfil, gwlyptiroedd, cynefin

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg