Adnabod
- Teitl
- Archif Ansawdd Dŵr CNC
- Crynodeb
Mae archif ansawdd dŵr CNC yn cadw data o samplau a gasglwyd ledled Cymru, gan gynnwys data arfordirol, data o aberoedd, afonydd, llynnoedd, pyllau a chamlesi, gollyngiadau carthffosiaeth a masnachol, mannau archwilio llygredd, a safleoedd gwastraff.
Cymerir mesuriadau maes yn y man a'r lle yn yr orsaf samplu, ond dadansoddir y rhan fwyaf o baramedrau mewn labordai i fesur agweddau ar ansawdd dŵr. Unwaith y bydd samplau wedi'u dadansoddi, rhaid i'r canlyniadau gael eu prosesu a'u gwirio cyn eu hychwanegu at yr archif ansawdd dŵr. Felly, mae oedi rhwng cymryd samplau a sicrhau bod y data ar gael. Gall data hefyd newid ar ôl ei gyhoeddi, ond bydd yr archif yn cael ei ddiweddaru bob mis i gynnwys cywiriadau.
Mae archif ansawdd dŵr CNC yn set ddata fawr sy’n cynnwys rhywfaint o ddata a allai fod yn sensitif ac felly mae rhywfaint o wybodaeth wedi’i golygu. Mae'r prif faterion sensitif yn ymwneud â dŵr daear, cyflenwadau dŵr yfed, data trydydd parti a samplau ymchwilio.
Mae'r haen GIS yn dangos lleoliadau'r safleoedd, y blynyddoedd y cawsant eu samplu a Dalgylch Rheoli y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr y maent wedi'u lleoli ynddo. Gellir defnyddio hyn i helpu i nodi'r ffeiliau blwyddyn sy'n cynnwys y data sydd ei angen arnoch o'r ddolen isod.
Dolen i lawrlwytho data ansawdd dŵr
Y data diweddaraf sydd ar gael
Mae CNC yn dal data sy’n mynd yn ôl i 1962 ond mae’r cynnyrch data agored yn cynnwys data o 2000 ymlaen. Ni fydd unrhyw samplau’n cael eu cynnwys ar ôl y dyddiad y cynhaliwyd yr adolygiad ansawdd data diwethaf, sydd fel arfer o fewn mis neu ddau o’r dyddiad cyfredol, er y gallai niferoedd a llwyth gwaith effeithio ar hyn.
I gael gwybod pryd y cafodd y ffeiliau unigol eu diweddaru ddiwethaf, gweler y daenlen ganlynol.
Rhybudd am yr wybodaeth
Cyffredinol: Mae’n bosibl y bydd data’n cael ei newid ar ôl ei gyhoeddi, gyda’r archif yn cael ei ddiweddaru bob mis i gynnwys cywiriadau. Gall hyn gynnwys tynnu sylw at ganlyniadau nas nodwyd yn flaenorol, fel rhai sy'n gwyro neu'n dileu canlyniadau y nodwyd eu bod yn annilys.
Samplau sy’n gwyro: Mae’n ofynnol i Wasanaethau Dadansoddol Cyfoeth Naturiol Cymru fod â pholisïau a gweithdrefnau ar waith o dan safon achredu ISO/IEC 17025 er mwyn sicrhau bod cywirdeb y canlyniadau a adroddir yn cael ei gynnal. Disgrifir unrhyw sampl nad yw'n bodloni'r meini prawf a osodwyd ar ôl ei derbyn neu yn dilyn dadansoddiad fel un sy'n gwyro. Rydym wedi amlygu'r darlleniadau data nad ydynt yn bodloni'r gofynion hyn yn y briodwedd “deviating_result”. Gall canlyniadau sy’n gwyro gael eu heffeithio gan ogwydd a/neu anfanyldeb o faint anhysbys. Felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau hyn a chynghorir yn erbyn eu defnyddio mewn dadansoddiad ystadegol.
Cymorth ychwanegol
Am gymorth ychwanegol, gweler ein cwestiynau cyffredin yma.
Datganiad priodoli
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data’r Arolwg Ordnans. Rhif trwydded yr Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.
- Trwydded
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Dyddiad cyhoeddi
- 06 Ebrill 2025
- Math
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Rhanbarthau
- Global
- Wedi'i gymeradwyo
- Ydy
- Cyhoeddwyd
- Ydy
- Wedi'i gynnwys
- Nac ydy
- Grŵp
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwybodaeth
- Maint gofodol
- System daflunio
- EPSG:27700
- Estyniad x0
- 160662.0
- Estyniad x1
- 354380.0
- Estyniad y0
- 158500.0
- Estyniad y1
- 396995.0
Nodweddion
Cyswllt
- E-bost
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Sefydliad
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeirnodau
- Dolen ar-lein
- /layers/geonode:nrw_water_quality_archive_stations
- Tudalen fetadata
- /layers/geonode:nrw_water_quality_archive_stations/metadata_detail
- GeoJSON
- Archif Ansawdd Dŵr CNC.json
- Excel
- Archif Ansawdd Dŵr CNC.excel
- CSV
- Archif Ansawdd Dŵr CNC.csv
- GML 3.1.1
- Archif Ansawdd Dŵr CNC.gml
- GML 2.0
- Archif Ansawdd Dŵr CNC.gml
- DXF
- Archif Ansawdd Dŵr CNC.dxf
- OGC Geopackage
- Archif Ansawdd Dŵr CNC.gpkg
- Zipped Shapefile
- Archif Ansawdd Dŵr CNC.zip