Blaenoriaethu yn ôl Canran arwynebedd o NFM posibl
Llywodraeth Cymru
Blaenoriaethu yn ôl Canran arwynebedd o NFM posibl
Mae'r setiau data hyn yn cyflwyno dull o flaenoriaethu Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) yng Nghymru. Datblygwyd y dull hwn fel rhan o adolygiad o NFM yng Nghymru. Mae rhagor o fanylion am yr adolygiad hwn a sut y crëwyd y map hwn ar gael yma.
Datblygwyd y map hwn i roi trosolwg strategol o'r ardaloedd sy'n fwy addas ar gyfer NFM. Mae dalgylchoedd wedi'u nodi i fyny'r afon o gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ac wedi eu hasesu yn dibynnu ar y ganran o’r arwynebedd sydd â photensial NFM. Caiff mwy o botensial ar gyfer NFM ei asesu fel blaenoriaeth uwch yn seiliedig ar y mwy o botensial o leihau perygl llifogydd.
Crëwyd pedair set ddata wahanol i dargedu dwy raddfa dalgylch wahanol, dalgylchoedd perygl llifogydd dŵr wyneb bach a dalgylchoedd perygl llifogydd afonol mwy ac i adlewyrchu amcanion sy’n flaenoriaeth i ddefnyddwyr gwahanol, rheoli perygl llifogydd a manteision amgylcheddol ehangach. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Blaenoriaethu NFM ar gyfer Dalgylchoedd Perygl Llifogydd Mwy
- Blaenoriaethu NFM ar gyfer Dalgylchoedd Perygl Llifogydd Bach
- Blaenoriaethu NFM ar gyfer Dalgylchoedd Perygl Llifogydd Mwy gyda phwysoli ar gyfer darpariaethau gwasanaethau ecosystem
- Blaenoriaethu NFM ar gyfer Dalgylchoedd Perygl Llifogydd Bach gyda phwysoli ar gyfer darpariaethau gwasanaethau ecosystem
Cyfeiriwch at bob un o'r haenau metadata i ddeall mwy trwy ddewis haen isod.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)
Priodweddau (0)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Dyddiad cyhoeddi:
- 18 Chwefror 2025
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- floodcoastalrisk@gov.wales
- Iaith
- Saesneg
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol