Adnabod

Teitl
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol
Crynodeb

Mae'r set ddata hon bellach yn sefydlog ac ni fydd yn cael ei diweddaru. Fodd bynnag, dylid parhau i ddefnyddio’r set ddata hon ar gyfer gwybodaeth am drwyddedau a oedd yn hanesyddol cyn dod o dan y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Dylid defnyddio'r set ddata hon ar y cyd â set ddata pwyntiau safleoedd tirlenwi hanesyddol, sef y set ddata fwyaf cynhwysfawr ar gyfer safleoedd tirlenwi sydd wedi dod i ben, sydd wedi'u hildio neu sydd wedi’u dirymu yn ddiweddar.

Set ddata ofodol (polygon) yw set ddata safleoedd tirlenwi hanesyddol. Safleoedd tirlenwi yw’r rhain a dynnwyd oddi ar y safleoedd tirlenwi awdurdodedig pan fo statws y drwydded gwastraff yn newid i un o’r canlynol:

– Trwydded wedi dod i ben: Roedd terfyn amser ar rai trwyddedau a roddwyd o dan Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 a daethant i ben ar y dyddiad a nodir yn y drwydded

– Trwydded wedi'i dirymu: Pan fo’r drwydded wedi’i dirymu’n llwyr ac nad yw bellach mewn grym

– Drwydded wedi'i hildio: Mae’r gweithredwr wedi llwyddo i ildio'r drwydded, nad yw bellach mewn grym

O dan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995, mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, sydd bellach yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghylch yr holl geisiadau a gânt i ddatblygu tir o fewn 250 metr i safleoedd tirlenwi (gan gynnwys unrhyw dir sydd wedi cael ei ddefnyddio fel safle tirlenwi o fewn y 30 mlynedd diwethaf neu sy’n debygol o gael ei ddefnyddio fel un yn y dyfodol agos). Crëwyd y set ddata safleoedd tirlenwi hanesyddol i helpu i gyflawni ein cyfrifoldeb statudol i awdurdodau cynllunio lleol drwy ddarparu gwybodaeth am y risgiau sy’n cael eu peri gan safleoedd tirlenwi i unrhyw waith datblygu o fewn 250m. Y data yw’r set ddata genedlaethol fwyaf cynhwysfawr a chyson ar gyfer safleoedd tirlenwi hanesyddol ac mae’n diffinio lleoliad safleoedd tirlenwi hanesyddol (sydd wedi cau) hysbys, ac yn darparu priodoleddau penodol ar eu cyfer, hy safleoedd lle nad oes trwydded atal a rheoli llygredd na thrwydded rheoli gwastraff mewn grym ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys safleoedd a oedd yn bodoli cyn y gyfundrefn trwyddedu gwastraff a safleoedd sydd wedi’u trwyddedu yn y gorffennol ond bod y drwydded hon wedi’i dirymu, wedi peidio â bodoli neu wedi’i hildio a bod tystysgrif gwblhau wedi’i chyhoeddi.

RHYBUDD AM YR WYBODAETH: Cyn 1996, roedd yr holl ddata safleoedd tirlenwi yn cael eu rheoli a’u coladu gan awdurdodau lleol. Oherwydd hyn, ni allwn warantu ansawdd a chywirdeb cofnodion safleoedd tirlenwi hanesyddol unigol hyd at y dyddiad hwn.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.

Trwydded
Trwyddedd Amodol CNC (NRW)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Dyddiad cyhoeddi
Math
Data gofodol
Geiriau allweddol
features, NRW_Historic_Landfill_Sites
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
175803.6955
Estyniad x1
353740.3426
Estyniad y0
165552.770300001
Estyniad y1
393719.5582

Nodweddion

Cyswllt

E-bost
opendata@naturalresourceswales.gov.uk
Sefydliad
Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/layers/inspire-nrw:NRW_Historic_Landfill_Sites
Tudalen fetadata
/layers/inspire-nrw:NRW_Historic_Landfill_Sites/metadata_detail

GeoJSON
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol.json
Excel
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol.excel
CSV
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol.csv
GML 3.1.1
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol.gml
GML 2.0
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol.gml
DXF
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol.dxf
OGC Geopackage
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol.gpkg
Zipped Shapefile
Safleoedd Tirlenwi Hanesyddol.zip

Diweddbwyntiau OWS

WMS
WFS