Mae’r set ddata ofodol hon yn cynnwys ffiniau digidol Parciau Cenedlaethol, sy’n ddynodiadau tirwedd statudol yng Nghymru. Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddyletswydd gyfreithiol i gynnal ffiniau Parciau Cenedlaethol a sicrhau eu bod ar gael.

Mae Parciau Cenedlaethol wedi’u dynodi at ddibenion gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, a threftadaeth ddiwylliannol ac er mwyn i’r cyhoedd fwynhau rhinweddau arbennig y tirweddau hyn sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

CNC yw’r awdurdod dynodi ar gyfer unrhyw Barciau Cenedlaethol newydd yng Nghymru neu amrywiadau i ffiniau’r rhai presennol, ond rhaid i Weinidogion Cymru gadarnhau’r rhain. Mae pwerau statudol CNC yn deillio o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad (NPAC) 1949 a Deddf yr Amgylchedd 1995. Sefydlodd Deddf yr Amgylchedd (1995) Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, fel Awdurdodau Lleol Diben Arbennig annibynnol i weinyddu ardal y Parc Cenedlaethol er mwyn cyflawni eu dibenion statudol.

Mae tri Pharc Cenedlaethol wedi’u dynodi yng Nghymru: Eryri 1951 (amrywiad 1974); Arfordir Penfro 1952 (amrywiad 1989); a Bannau Brycheiniog 1955 (amrywiad 1966).

Mae’r data wedi’i gadw’n ddigidol ers canol y 1990au. Mae’r ffin wedi’i throsglwyddo i OS MasterMap gan CNC ac wedi bod yn destun gwirio ar y cyd gan staff CNC a staff awdurdod y Parc perthnasol.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawl Cronfa Ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS
Lawrlwytho data gofodol

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (3)

Grwpiau sy’n defnyddio’r data hyn (0)

Priodweddau (9)

Enw'r briodwedd Label Disgrifiad
objectid
np_name
desig_date
edit_date
area_ha
isis_id
centre_x
centre_y
geom

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
features, NRW_NATIONAL_PARK
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg