Adnabod

Teitl
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru
Crynodeb

1.1 Cefndir

Cafodd tirweddau Cymru eu ffurfio gan brosesau naturiol a'u llunio gan weithgarwch dynol. Mae'r gweithgarwch dynol hwn yn amrywio o gyfnodau cynhanesyddol hyd at yr oes fodern. Er mwyn cydnabod gwerth tirweddau hanesyddol a chodi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd mae Cadw, mewn partneriaeth â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) a'r Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd (ICOMOS UK), wedi llunio Cofrestr anstatudol o 58 o dirweddau o ddiddordeb hanesyddol eithriadol neu arbennig yng Nghymru.

Cofrestr anstatudol, gynghorol yw'r Gofrestr o Dirweddau Hanesyddol. Ei phrif nod yw darparu gwybodaeth am yr ardaloedd tirwedd hanesyddol pwysicaf a mwyaf arwyddocaol yng Nghymru, a chodi ymwybyddiaeth ohonynt, er mwyn helpu i'w diogelu a'u gwarchod. Y bwriad yw y bydd y wybodaeth hon yn helpu perchenogion, y Llywodraeth, cyrff statudol, Awdurdodau Lleol, datblygwyr ac unrhyw un sy'n rheoli ac yn diogelu tir i wneud penderfyniadau hyddysg ynghylch ardaloedd ar y Gofrestr. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi'r egwyddorion cyffredinol ar gyfer defnyddio'r Gofrestr yn y broses gynllunio, gan ddatgan y dylai awdurdodau cynllunio lleol ystyried gwybodaeth am dirweddau hanesyddol sydd wedi'i chynnwys yn y Gofrestr wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol, ac wrth ystyried goblygiadau datblygiadau o faint a fyddai'n cael mwy nag effaith leol ar ardal sydd ar y Gofrestr.

1.2 Pa Mor Aml y Caiff y Wybodaeth ei Diweddaru

Ni fu angen diweddaru'r set ddata ers cyhoeddi'r Cofrestri gwreiddiol yn 1998 a 2001.

1.3 Darluniau

Cafodd yr ardaloedd â Nodweddion Tirwedd Hanesyddol eu digideiddio yn seiliedig ar y darluniau copi caled gwreiddiol o'r Cofrestri a luniwyd yn 1998 a 2001. Dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio'r data hyn (gweled metadata).

1.4 Defnyddio Data

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio'r data GIS hyn. Gall derbynyddion ailddefnyddio, atgynhyrchu neu ledaenu'r data hyn am ddim ar unrhyw ffurf neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod eu bod yn gwneud hynny'n gywir gan gydnabod y ffynhonnell a'r hawlfraint fel y'u nodir (gweler isod), ac nad ydynt yn eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Y derbynnydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y data yn addas i'r diben a fwriedir, nad yw lledaenu neu gyhoeddi'r data yn arwain at ddyblygu, a bod y data'n cael eu dehongli'n deg. Dylid ceisio cyngor ar ddehongli lle y bo angen. Caiff y data hyn eu gwirio'n rheolaidd, ond os ydych yn dymuno trafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).

Wrth ddefnyddio'r data uchod o dan y Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y datganiad priodoli canlynol: -

Data GIS ar Asedau Hanesyddol Dynodedig, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Cadw), DYDDIAD [y dyddiad y cawsoch y data gan Cadw], wedi'u trwyddedu o dan Drwydded Llywodraeth Agored http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg/version/3/

1.5 Gwybodaeth Arall

Mae rhagor o wybodaeth am Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru i'w chael ar wefan y Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw) drwy ddilyn y ddolen isod: -

Tirweddau hanesyddol cofrestredig | Cadw (llyw.cymru)

Mae'r disgrifiad o'r Dynodiad ar gael ar-lein yn Cof Cymru – Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn y ddolen isod: -

Chwilio cofnodion Cadw | Cadw (llyw.cymru)

1.6 Cyngor Cyffredinol

Dylid ceisio cyngor dehongli lle bo angen. Caiff y wybodaeth hon ei gwirio o bryd i'w gilydd, fodd bynnag, os hoffech drafod y set ddata, cysylltwch â'r Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol (Cadw).

Trwydded
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Creation Date
Math
Data gofodol
Geiriau allweddol
Cadw_HistoricLandscapes, features
Categori:
Cymdeithas

Nodweddion cymdeithas a diwylliannau. Enghreifftiau: aneddiadau, anthropoleg, archeoleg, addysg, credoau, moesau ac arferion traddodiadol, data demograffig, ardaloedd hamdden a gweithgareddau, asesiadau effaith gymdeithasol, trosedd a chyfiawnder, gwybodaeth cyfrifiad

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
168975.94392507343
Estyniad x1
357291.5151882071
Estyniad y0
168241.85052647622
Estyniad y1
393964.5980620931

Nodweddion

Cyswllt

E-bost
data@llyw.cymru
Sefydliad
Cadw

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/layers/inspire-wg:Cadw_HistoricLandscapes
Tudalen fetadata
/layers/inspire-wg:Cadw_HistoricLandscapes/metadata_detail

Zipped Shapefile
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru.zip
OGC Geopackage
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru.gpkg
DXF
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru.dxf
GML 2.0
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru.gml
GML 3.1.1
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru.gml
CSV
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru.csv
Excel
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru.excel
GeoJSON
Tirweddau Cofrestredig o Ddiddordeb Eithriadol ac Arbennig yng Nghymru.json

OGC WMS: inspire-wg Service
Geoservice OGC:WMS
OGC WFS: inspire-wg Service
Geoservice OGC:WFS