Adnabod

Teitl
Map Tomenni Glo nas Defnyddir yng Nghymru
Crynodeb

Diweddarwyd y set ddata hon ddiwethaf ym mis Hydref 2025.

Dengys y set ddata hon leoliadau a ffiniau tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys tomenni nas defnyddir o BOB categori (categorïau D, C, B, A ac R).

Mae'r set ddata hon yn cynnwys priodoledd sy'n dangos Rhif Adnabod Unigryw pob tomen [UID], ei sgôr categori [Categori], yr Awdurdod Lleol lle mae wedi'i lleoli [Awdurdod] a'r dyddiad diwethaf y cafodd pob tomen lo nas defnyddir ei harchwilio ddiwethaf [Archwiliwyd Ddiwethaf] ar ran Llywodraeth Cymru gan Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (MRA).

Caiff y data hyn eu diweddaru ddwywaith y flwyddyn (unwaith yn y gwanwyn ac unwaith yn yr hydref) er mwyn cyd-fynd â'r rhaglen barhaus o archwiliadau ar gyfer tomenni nas defnyddir categori C a D.

Mae'r set ddata hon yn rhan o raglen waith i adolygu a gwella diogelwch tomenni glo yng Nghymru sy'n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid.

I gael rhagor o wybodaeth: Diogelwch tomenni glo| LLYW.CYMRU

DATGANIAD HAWLFRAINT PWYSIG: Ar gyfer DEFNYDD PERSONOL YN UNIG y mae'r data hyn ac nid yw'n set ddata agored. Cyflwynir yr wybodaeth hon er mwyn ichi ei gweld yn unig.

Mae'r data hyn wedi deillio'n rhannol o ddeunydd yr Arolwg Ordnans a ddelir ac a ddefnyddir o dan drwydded gan Lywodraeth Cymru. Gall unrhyw ddefnydd anawdurdodedig, neu atgynhyrchu'r set ddata arwain at erlyniad neu achos sifil.

Mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n deillio o'r ffynonellau canlynol:

Deunyddiau Arolwg Daearegol Prydain © UKRI 2025

Mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n deillio o ddata Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl y Gronfa Ddata, 2025, Cedwir pob hawl. Mae'r deunydd hwn wedi'i drwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored 3.0

© Hawlfraint y Goron a Hawl y Gronfa Ddata 2025. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded Arolwg Ordnans 100020315.

 © Hawlfraint y Goron a Landmark Information Group Limited 2025. Cedwir pob hawl. 

© Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio Cedwir pob hawl, 2025

Trwydded
Amrywiol / Deilliedig

Hawlfraint:

Dim

Dyddiad cyhoeddi
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Rhanbarthau
Global, United Kingdom
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Coal Tips Safety CY

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
175555.0
Estyniad x1
353778.0
Estyniad y0
166432.0
Estyniad y1
393483.0

Nodweddion

Cyfyngiadau

Mae'r set ddata hon yn cynnwys eiddo deallusol sy'n perthyn i drydydd partïon. O ganlyniad, ar gyfer DEFNYDD PERSONOL yn unig y mae'r set ddata hon ac nid yw'n set ddata agored. Cyflwynir yr wybodaeth hon er mwyn ichi ei gweld yn unig.

Trwy edrych ar y set ddata hon neu ei defnyddio, rydych yn cytuno i'w defnyddio at ddefnydd personol yn unig ac nid at unrhyw ddiben arall (gan gynnwys dibenion masnachol, gwneud penderfyniadau masnachol neu ymchwil).

Cymerwyd gofal i sicrhau bod y set ddata hon yn gynhwysfawr, yn gyson ac yn gywir ond dylid nodi bod union leoliad ffiniau tomenni nas defnyddir yn ddehongliad o'r dystiolaeth a oedd ar gael ar yr adeg y cafodd ei chreu ac efallai na fydd yn 100% yn gywir os edrychir arno ar raddfa isel iawn.

Rhifyn
2nd Edition of Data showing ALL Disused Coal tips October 2025
Pwrpas

Pwrpas y set ddata hon yw datgelu lleoliadau a chategorïau'r tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru. Mae cyhoeddi'r data hyn yn rhan o ymrwymiad i sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael i bobl a chymunedau Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Crëwyd ffiniau'r tomenni nas defnyddir o ystod o ffynonellau data; mapiau hanesyddol, cynlluniau pyllau glo, gwybodaeth ddaearegol, delweddau o'r awyr a Modelau Tir Digidol sy'n deillio o ddata LiDAR.

Ansawdd y data

Cymerwyd gofal i sicrhau bod y set ddata hon yn gynhwysfawr, yn gyson ac yn gywir ond dylid nodi bod union leoliad ffiniau tomenni nas defnyddir yn ddehongliad o'r dystiolaeth a oedd ar gael ar yr adeg y cafodd ei chreu ac efallai na fydd yn 100% yn gywir os edrychir arno ar raddfa isel iawn.

Gall y set ddata hon newid dros amser mewn ymateb i weithgarwch rheoli, ee canfyddiadau arolygiadau neu ganlyniadau cynnal a chadw.

Gwybodaeth ategol

Gall y set ddata hon newid dros amser mewn ymateb i weithgarwch rheoli, ee canfyddiadau arolygiadau neu ganlyniadau cynnal a chadw.

Math o Gynrychioliad Gofodol
Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol

Cyswllt

E-bost
data@gov.wales
Sefydliad
Llywodraeth Cymru
Adran
Coal Tips Safety CY

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/maps/7548
Tudalen fetadata
/maps/7548/metadata_detail

Diweddbwyntiau OWS

WMS
/capabilities/map/7548/?ows_service=wms