Mae syllwr mapiau LiDAR yn dangos y data LiDAR sydd ar gael ar gyfer Cymru.

Gallwch weld pa deils sydd ar gael a dod o hyd i wybodaeth ar gyfer yr Archif LiDAR Hanesyddol a LiDAR Llywodraeth Cymru 2020-22 drwy glicio ar yr eicon llygad wrth ymyl enw'r haen yn y panel ar y chwith ac yna clicio ar y rhan o’r map sydd o ddiddordeb ichi.

Gweld data LiDAR

I weld data LiDAR, agorwch y ffolder DTM (model tir digidol) neu DSM (model arwyneb digidol), dewiswch yr haen neu'r haenau a ddymunir a chliciwch ar yr eicon llygad wrth ymyl enw'r haen.

Lawrlwytho data LiDAR

Mae sawl ffordd o lawrlwytho data LiDAR.

Mae'r dolenni URL ar gyfer teils yn yr Archif LiDAR Hanesyddol a teils setiau data LiDAR Llywodraeth Cymru 2020-22 ar gael yn y naidlen gwybodaeth am nodweddion sy'n ymddangos wrth glicio ar y map pan fydd yr Archif LiDAR Hanesyddol neu Llywodraeth Cymru Mynegai teils LiDAR 2020-22 i’w gweld.

Fel arall, mae'r Canllaw sut i lawrlwytho data LiDAR yn esbonio sut i ddefnyddio'r ategyn data raster i lawrlwytho data sydd ar gael o’r Archif LiDAR Hanesyddol.

Rhestrir isod ddolenni i ffeiliau GeoTIFF a Optimeiddiwyd ar gyfer y Cwmwl (COGs) 32 did, 16 did a graddliwio’r dirwedd, ar gyfer y datasetiau DTM a DSM.

Sylwer bod y ffeiliau hyn yn rhai mawr iawn ac y gall gymryd amser eithriadol o hir i lawrlwytho’r data llawn. Bydd angen llawer iawn o le i’w storio hefyd. Fodd bynnag, gallwch gopïo'r dolenni COG a'u gludo i System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) megis QGIS ar ffurf haen rastr. Darllenwch fwy am COGs

https://dmwproductionblob.blob.core.windows.net/cogs/wg_lidar_2020_22_dtm_16bit_cog.tif

https://dmwproductionblob.blob.core.windows.net/cogs/wg_lidar_2020_22_dsm_16bit_cog.tif

https://dmwproductionblob.blob.core.windows.net/cogs/wg_lidar_1m_dsm_32bit_cog.tif

https://dmwproductionblob.blob.core.windows.net/cogs/wales_lidar_dtm_1m_32bit_cog.tif

https://dmwproductionblob.blob.core.windows.net/cogs/wales_lidar_dsm_1m_hillshade_cog.tif

https://dmwproductionblob.blob.core.windows.net/cogs/wg_lidar_2020_22_dtm_hillshade_cog.tif

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (3)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn