Cefndir

Mae pyllau glo yn rhan o orffennol mwyngloddio Cymru, ond lle bo hynny’n addas gallant nawr gynnig ffynhonnell bosibl o wres i gefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydweithiau gwres dŵr pyllau glo newydd. Comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Awdurdod Glo i gynhyrchu ‘map cyfleoedd ar gyfer cynlluniau gwres dŵr pyllau glo’ yng Nghymru, gyda’r nod o ddarparu gwybodaeth i awdurdodau lleol neu ddatblygwyr ynghylch lle gellid ystyried sefydlu cynlluniau gwres dŵr pyllau glo.

Methodoleg

Mae’r holl weithfeydd glo sydd wedi’u cofnodi yng Nghymru wedi cael eu hasesu ar gyfer y posibilrwydd o sefydlu cynlluniau gwres dŵr pyllau glo drwy dyllau turio. Mae’r ardaloedd hyn wedi cael eu dynodi i ddangos lle gellid ymchwilio ymhellach i gynlluniau gwres dŵr pyllau glo, gan ddefnyddio tyllau turio wedi’u drilio at y pwrpas i gyrraedd y gweithfeydd.

Mae’r mapiau cyfleoedd yn ystyried nifer o wahanol ffactorau sy’n cael eu hasesu gan arbenigwyr technegol. Dyma rai ffactorau sy’n cael eu hystyried:

  • Dyfnderau gweithio o dan y ddaear
  • Lefelau dŵr hysbys y pwll glo
  • Statws adfer lefel dŵr y pwll glo
  • Tystiolaeth o waith cloddio glo brig

Ceir tair lefel o gyfleoedd ar gyfer datblygiadau gwres dŵr pyllau glo: “Da”, “Posibl” a “Heriol”. Yn ogystal, ceir map ‘ffynhonnell bwynt’ sy’n dangos lleoliadau lle gallai rhedlifau dŵr pyllau glo hysbys gynnig potensial ar gyfer cynlluniau gwresogi.

Categorïau Cyfleoedd gyda Gwres Dŵr Pyllau Glo

Cyfleoedd Da

Mae’r ardaloedd hyn yn cynrychioli lle mae’n ymddangos y ceir amodau delfrydol ar gyfer cynlluniau gwres dŵr pyllau glo, gyda llai o heriau. Bydd yr holl feini prawf canlynol yn cael eu bodloni, er mwyn dosbarthu ardal fel un “Dda”. Fodd bynnag, mae dal angen gwneud asesiad ar y safleoedd penodol yn yr ardaloedd hyn i ganfod y lefelau dŵr lleol, cyflwr y gwaith, a dichonoldeb datblygu cynllun.

  • Mae nifer o weithfeydd glo tanddaearol sydd wedi’u cofnodi yn gorgyffwrdd â’i gilydd, a;
  • Mae’r gweithfeydd o dan ddŵr, ac;
  • Mae'r gweithfeydd rhwng 30 m a 300 m o dan lefel y ddaear, ac;
  • Amcangyfrifir bod lefel y dŵr yn llai na 75 m o dan lefel y ddaear, ac;
  • Mae’r lefelau dŵr wedi adfer neu yn adfer.

Cyfleoedd Posibl

Mae’r ardaloedd hyn yn cynrychioli lle mae’n ymddangos y bydd heriau i ddatblygu cynlluniau gwres dŵr pyllau glo. Os bydd unrhyw un o’r amodau isod yn cael eu bodloni, bydd gan yr ardal gyfleoedd “Posibl” ar gyfer cynlluniau gwres dŵr pyllau glo. Bydd angen ymchwilio i’r ardaloedd hyn yn drylwyr, a gallant fod yn gyfleoedd da neu wael i’r dyfodol.

  • Mae’r gweithfeydd yn gorgyffwrdd, ac;
  • Mae’r gweithfeydd o dan ddŵr, ac;
  • Mae’r gweithfeydd yn agos at neu’n fwy bas na 500 m o dan lefel y ddaear, neu;
  • Mae’r lefelau dŵr rhwng 75 a 100 m o dan lefel y ddaear, a naill ai’n adfer neu wedi adfer, neu;
  • Mae lefelau dŵr yn ddyfnach na 100 m o dan lefel y ddaear, ond yn adfer, neu;
  • Ceir tystiolaeth o waith glo brig, gyda’r posibilrwydd o waith tanddaearol sy’n gyfan oddi tano.

Cyfleoedd Heriol

Yn yr ardaloedd hyn nid yw’r amodau’n ymddangos yn ffafriol ar gyfer datblygu cynllun gwres dŵr pyllau glo, ac efallai na fyddant yn gwella yn y dyfodol. Os bodlonir unrhyw un o’r meini prawf hyn, caiff yr ardal ei dosbarthu fel un “heriol”. Nid yw’n golygu na allai cynllun fod yn llwyddiannus yma, ond y byddai nifer o rwystrau heriol i’w goresgyn o’u cymharu ag ardaloedd cyfleoedd eraill ar gyfer cynlluniau gwres dŵr pyllau glo.

  • Efallai na fydd y gwaith dan ddŵr, neu;
  • Mae’r gweithfeydd yn llai na dim ond 30 m o dan lefel y ddaear, neu;
  • Mae’r gwaith dros 500 m o dan lefel y ddaear heb ddim targedau mwy bas, neu;
  • Mae’r lefelau dŵr yn ddyfnach na 100 m o dan lefel y ddaear, ac maent wedi adfer, neu;
  • Mae problemau’n hysbys gyda nwy yn y pwll glo, neu;
  • Ceir tystiolaeth o waith cloddio glo brig lle gallai gweithfeydd tanddaearol fod wedi cael eu tynnu ymaith yn llwyr, neu;
  • Ceir un wythïen, sy’n gyfan gwbl o dan ddŵr, ac nid oes gwaith cloddio glo brig yn effeithio arni.

Mae cyfleoedd un wythïen wedi cael eu cynnwys fel rhai “heriol”, a byddai angen gwneud arfarniad trylwyr i weld a fyddai natur y gwaith yn addas ar gyfer cynllun gwres. Gall sefydlu cynllun twll turio i mewn i un wythïen arwain at “siortio” cynllun gwres yn gyflym, gan fod dŵr oerach sydd wedi’i ddefnyddio yn gallu symud yn gyflym i’r ffynnon lle tynnir y dŵr ar ôl iddo gael ei ail-chwistrellu.

Rhedlifau

Mae’r lleoliadau hyn yn cynrychioli lleoliadau hysbys lle mae dŵr y pwll glo ar y wyneb, gan gynnwys rhedlifau sy’n cael ei gyrru gan ddisgyrchiant a chynlluniau trin dŵr pyllau glo.  Mae tymheredd a data llif dŵr cyfartalog wedi cael eu defnyddio i amcangyfrif adnodd thermol posibl. Pe byddem am ddefnyddio unrhyw redlifau byddai gofyn cael pob caniatâd, trwydded a hawl perthnasol ynghyd ag arfarniad trylwyr i bennu a fyddai natur y gwaith yn cefnogi cynllun gwres.

Cafeatau

Nid yw’r ardaloedd cyfleoedd a lleoliadau’r rhedlifau a amlinellir ar y map hwn yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd unrhyw hawliau, trwyddedau, cytundebau mynediad neu ganiatâd i’r dyfodol yn cael eu rhoi. Nid yw’r safleoedd blaenoriaeth na lleoliadau’r rhedlifau yn cynnig unrhyw sicrwydd o lwyddiant unrhyw gynllun gwres dŵr pyllau glo mewn unrhyw leoliad. Bydd angen gwneud astudiaethau dichonoldeb manwl ar gyfer unrhyw gynllun gwres dŵr pyllau glo arfaethedig a byddai’n rhaid cael yr holl drwyddedau, caniatadau, hawliau a chytundebau perthnasol gan yr holl gyrff perthnasol.

Mae’n bosibl y bydd y map cyfleoedd ar gyfer cynlluniau gwres dŵr pyllau glo yn newid wrth i lefelau dŵr y pyllau glo newid, yn enwedig pan fyddant yn adfer ar ôl cau’r pyllau glo.

Adnoddau

Adroddiadau ac arweiniad ar gael yma

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (3)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn