Map o Ardaloedd Rheoli Mwg Cymru
Llywodraeth Cymru
Mae ardaloedd rheoli mwg yn ardaloedd lle na ddylai pobl a busnesau:
- ollwng mwg o simneiau
- prynu neu werthu tanwydd anawdurdodedig i'w ddefnyddio mewn ardal rheoli mwg oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn lle tân 'eithriedig' (offer sydd wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg)
Y ddeddfwriaeth berthnasol yw Deddf Aer Glân 1993.
Gellir gweld rhestr o’r diheintyddion a gymeradwywyd i’w defnyddio yng Nghymru yma.
Gellir gweld rhestr o’r offer a gymeradwywyd i’w defnyddio yng Nghymru yma.
Bydd rhestrau dwyieithog o danwydd a lleoedd tân cymeradwy ar gael ar y dolenni hyn yn fuan.
Mae'r data hyn wedi'u darparu i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol ac mae'n ddangosol yn unig. Mewn rhai achosion, ail-grëwyd ffiniau fel y'u diffinnir mewn Gorchmynion Rheoli Mwg gwreiddiol a gallant groestorri adeiladau. Os oes amheuaeth, cysylltwch â'ch awdurdod lleol i gadarnhau a ydych yn byw mewn Ardal Rheoli Mwg.
Mae'r data yn cynnwys gwybodaeth sector cyhoeddus a drwyddedwyd dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0. Mae’n rhad ac am ddim i’w ailddefnyddio a’i atgynhyrchu, ar yr amod y gwneir hynny’n gywir ac nid mewn cyd-destun camarweiniol.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (2)
- Math:
- Map
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad cyhoeddi:
- 04 Ebrill 2024
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- data@llyw.cymru
- Iaith
- Saesneg