Sefydlodd Llywodraeth Cymru raglen dileu TB i wireddu’r nod tymor hir o gael gwared yn llwyr ar TB gwartheg yng Nghymru.

O 1 Hydref 2017, cafodd Ardaloedd TB eu creu i ddangos statws cymharol y clefyd mewn daliadau mewn ardaloedd penodol. Mae’r Ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel yn gyfuniad o unedau gofodol yn seiliedig ar blwyfi.

Mae’r unedau gofodol yn cyd-fynd â’r system CPH ac mae tua’r un faint o fuchesi ym mhob un. Ni fydd newidiadau yn ffiniau awdurdodau lleol yn effeithio arnyn nhw a gallwn eu newid yn rhwydd os bydd sefyllfa’r clefyd yn newid. Byddwn yn monitro sefyllfa’r clefyd ym mhob ardal yn rheolaidd ac yn adolygu’r unedau gofodol yn rheolaidd.

Mae'r map hwn yn dangos ffiniau cyfredol yr Ardal Digwyddiad TB yn gywir ar 1 Tachwedd 2021. Ar 1 Tachwedd 2021 fe ailddosbarthwyd unedau gofodol CL1, CL2 a GW1 dros dro fel rhan o Ardal TB Ganolradd y Gogledd (ITBAN) o'r Ardal TB Isel.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Y data mae'r map hwn yn eu defnyddio (0)

Dangos yn y syllwr mapiau
Math:
Map
Dyddiad creu:
07 Mai 2021
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn