Cerdded, olwyno a seiclo yn Ngheredigion – dweud eich dweud!
Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru wella a chynyddu eu llwybrau teithio llesol yn barhaus a chynllunio sut y bydd llwybrau’n uno i ffurfio rhwydweithiau, fel y gall pobl symud o gwmpas yn haws ar feic neu ar droed ar gyfer eu teithiau bob dydd i'r gwaith, i’r ysgol ac i gyrchfannau lleol eraill.
Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y prif drefi, sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, sydd wedi'u dewis gan Lywodraeth Cymru fel y lleoliadau Teithio Llesol dynodedig yn y Sir.
Ar ôl cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi’n ofynnol i gynghorau gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd wirio bod ystyriaeth wedi’i roi i’w barn nhw. Dyma lle mae Cyngor Sir Ceredigion arni ar hyn o bryd. Rydym yn awr yn gofyn:
- Ydyn ni wedi nodi’r llwybrau cywir ar gyfer eu gwella (llwybrau’r dyfodol)?
- Ydyn ni’n gywir yn ein hasesiad o’r llwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau a gytunwyd (llwybrau cyfredol)?
- Ydyn ni wedi nodi’r llwybrau newydd priodol i gyd?
Sut i gymryd rhan
Edrychwch ar y map rhyngweithiol isod a rhannwch eich barn cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.
Os yw'ch adborth yn ymwneud â lleoliad penodol, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn ‘rhoi pin’ ar y map drwy ddewis y lleoliad hwnnw, neu’n disgrifio’r stryd neu'r ardal yr ydych yn cyfeirio ati yn eich sylwadau.
Rhowch ddigon o fanylion i'n helpu i ystyried eich sylwadau'n llawn, er enghraifft: os ydych chi'n meddwl bod angen cyrbau isel ar droedffordd i gynorthwyo gydag hygyrchedd o ran olwyno, darparwch fanylion a disgrifiad o'r lleoliad.
Diogelu Data
Darllenwch sut mae'r Cyngor yn trin data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.
