Cerdded, olwyno a seiclo yn Ngheredigion – dweud eich dweud!

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru wella a chynyddu eu llwybrau teithio llesol yn barhaus a chynllunio sut y bydd llwybrau’n uno i ffurfio rhwydweithiau, fel y gall pobl symud o gwmpas yn haws ar feic neu ar droed ar gyfer eu teithiau bob dydd i'r gwaith, i’r ysgol ac i gyrchfannau lleol eraill.

Mae'r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y prif drefi, sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, sydd wedi'u dewis gan Lywodraeth Cymru fel y lleoliadau Teithio Llesol dynodedig yn y Sir.

Ar ôl cyfnod o ymgysylltu â'r cyhoedd, mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud hi’n ofynnol i gynghorau gynnal ymgynghoriad statudol er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd wirio bod ystyriaeth wedi’i roi i’w barn nhw. Dyma lle mae Cyngor Sir Ceredigion arni ar hyn o bryd. Rydym yn awr yn gofyn:

  • Ydyn ni wedi nodi’r llwybrau cywir ar gyfer eu gwella (llwybrau’r dyfodol)?
  • Ydyn ni’n gywir yn ein hasesiad o’r llwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau a gytunwyd (llwybrau cyfredol)?
  • Ydyn ni wedi nodi’r llwybrau newydd priodol i gyd?

Sut i gymryd rhan

Edrychwch ar y map rhyngweithiol isod a rhannwch eich barn cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.

Os yw'ch adborth yn ymwneud â lleoliad penodol, byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn ‘rhoi pin’ ar y map drwy ddewis y lleoliad hwnnw, neu’n disgrifio’r stryd neu'r ardal yr ydych yn cyfeirio ati yn eich sylwadau.

Rhowch ddigon o fanylion i'n helpu i ystyried eich sylwadau'n llawn, er enghraifft: os ydych chi'n meddwl bod angen cyrbau isel ar droedffordd i gynorthwyo gydag hygyrchedd o ran olwyno, darparwch fanylion a disgrifiad o'r lleoliad.

Diogelu Data

Darllenwch sut mae'r Cyngor yn trin data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

Cwestiynau Teithio Llesol

1) A wnaethoch chi gymryd rhan yn ymgysylltiad teithio llesol ar-lein Ceredigion?
2) Ydyn ni’n gywir yn ein hasesiad o’r llwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau a gytunwyd (llwybrau cyfredol)?
3) Ydych chi’n credu y bydd y rhwydwaith o lwybrau arfaethedig (y dyfodol) a ddangosir ar y map hwn yn eich annog i gerdded, olwyno a/neu seiclo mwy ar gyfer teithiau bob dydd?
4) Oes llwybrau yn eisiau o’r rhwydwaith arfaethedig, a fyddai’n eich helpu i wneud teithiau llesol bob dydd?

Effaith ar yr Iaith Gymraeg

Yng Nghymru, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni ofyn y cwestiynau canlynol am effaith ar yr Iaith Gymraeg.

Ydych chi’n credu bydd gwella llwybrau teithio llesol yng Ngheredigion yn cael effaith ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Iaith Gymraeg, neu ar statws yr Iaith Gymraeg yn y gymuned?

Cwestiynau Monitro Cydraddoldeb

Nid oes rhaid i chi ateb y cwestiynau hyn. Maent yn ein helpu i wirio ein bod wedi casglu barn ystod eang o bobl sy’n adlewyrchu'r boblogaeth yng Ngheredigion. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer dadansoddi ystadegol yn unig.

1. Beth yw eich oedran?
2. Beth yw eich rhyw? Bydd cwestiwn am hunaniaeth rhyw yn dilyn.
3. Ydy'r rhyw yr ydych yn ei adnabod yn yr un peth â'ch rhyw a gofrestrwyd wrth eich genedigaeth?
4. Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau sut rydych chi'n meddwl amdanoch chi'ch hun?
5. Sut fyddech chi yn disgrifio eich hunaniaeth genedlaethol?
6. Sut fyddech chi yn disgrifio eich grŵp ethnig?
7. Beth yw eich grefydd neu gred?
8. Ydych chi wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y DU o'r blaen? (dylai aelodau cyfredol ddweud 'na')
9. A oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu salwch tymor hir sy'n lleihau eich gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd?
10. Beth yw eich dewis iaith?