Rhowch eich barn ar gerdded, defnyddio cymhorthion symudedd a beicio yn Sir y Fflint!
Diweddariad 2026 i'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM)
Mae Cyngor Sir y Fflint yn diweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol (ATNM) – ac rydym am glywed gennych.
Rydym am ddarparu rhwydwaith i Sir y Fflint sy'n caniatáu i gerdded, olwyno a beicio ddod y ffordd fwyaf naturiol a normal o deithio o le i le ar gyfer siwrneiau lleol. A thrwy wneud hynny, hyrwyddo iechyd a lles pawb a gwneud ein trefi a'n pentrefi yn lleoedd brafiach i fyw ynddynt.
O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, olwyno a beicio yn rheolaidd. Cafodd ein map presennol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022, ac mae'n bryd nawr adlewyrchu ar y newidiadau a'r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.
Rydym yn adolygu ac yn mireinio'r ATNM i gynnwys:
- Llwybrau Presennol: Dyma’r llwybrau sy'n bodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer cerdded, olwyno a beicio (neu'r holl ddulliau hynny).
- Llwybrau’r Dyfodol: Llwybrau arfaethedig yw'r rhain nad ydynt yn bodoli eto neu sydd angen eu gwella i fodloni'r safonau gofynnol.
Sylwch nad yw'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys materion sy'n ymwneud â Hawliau Tramwy Cyhoeddus nac unrhyw faterion priffyrdd nad ydynt yn gysylltiedig â cherdded, defnyddio offer symudedd ar olwynion neu feicio, gan nad ydynt yn cael sylw yn yr adolygiad o'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol.
Am ragor o wybodaeth am eich hawliau a sut rydym yn prosesu'ch gwybodaeth, cliciwch yma.
Yn barod i gymryd rhan?
I ddechrau, chwyddwch y map a dewiswch y llwybr yr hoffech ei adolygu.
Sylwch: Efallai y bydd y map yn cymryd ychydig eiliadau i lwytho.

Unwaith i chi ddewis lleoliad, cwblhewch yr arolwg byr isod.
Os hoffech wneud sylwadau ar lwybrau lluosog, gallwch gyflwyno mwy nag un ymateb.