Ymgynghoriad Map Rhwydwaith Teithio Egnïol – Cam 2

Cerdded, Teithio ar Olwynion a Beicio yn Sir Benfro

Dweud eich dweud: i helpu i lywio rhwydwaith teithio llesol Sir Benfro

Mae Cyngor Sir Penfro yn diweddaru ei fap rhwydwaith teithio llesol ac rydym am glywed gennych chi.

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru adolygu a gwella eu llwybrau cerdded, teithio ar olwynion a beicio yn rheolaidd. Cafodd ein map presennol ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2022, ac rydym bellach yn ei adolygu i adlewyrchu’r newidiadau a’r gwelliannau a wnaed dros y tair blynedd diwethaf.

Yn dilyn ymgynghoriad statudol 12 wythnos, mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau roi cyfle i’r cyhoedd gadarnhau bod eu barn wedi cael ei hystyried yn briodol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli’r cam nesaf hwnnw.

Rydym yn gofyn am eich adborth ar y canlynol:

  • A ydym wedi nodi llwybrau newydd posibl priodol?
  • A ydym wedi nodi'n gywir y llwybrau presennol y gellid eu gwella?
  • A ydym yn gywir yn ein hasesiad o’r llwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau y cytunwyd arnynt (llwybrau presennol)?

Sylwch nad yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys materion sy’n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus nac unrhyw faterion priffyrdd nad ydynt yn gysylltiedig â cherdded, teithio ar olwynion neu beicio gan nad yw’r rhain wedi’u cynnwys yn yr adolygiad o’r map rhwydwaith teithio llesol.

Yn barod i gymryd rhan?

I ddechrau, chwyddwch mewn i’r map a dewis y llwybr yr hoffech ei adolygu.

Noder: efallai bydd y map yn cymryd ychydig eiliadau i lwytho.

Angen cymorth i gymryd rhan?

Os na allwch gael mynediad i’r ymgynghoriad ar-lein hwn neu os na allech ddod i’n digwyddiadau wyneb yn wyneb, rydym yn hapus i gynnig ffyrdd eraill i chi rannu eich barn.

Anfonwch e-bost at y tîm yn Transportstrategy@pembrokeshire.gov.uk a byddwn yn trefnu dull addas i chi gymryd rhan.

Ar ôl i chi ddewis lleoliad, cwblhewch yr arolwg byr isod.

Os hoffech wneud sylwadau ar sawl llwybr, gallwch gyflwyno mwy nag un ymateb.

1. A wnaethoch chi gymryd rhan yn ymgysylltiad teithio llesol ar-lein Cyngor Sir Penfro rhwng mis Ionawr a mis Ebrill eleni?
2. A ydym yn gywir yn ein hasesiad o’r llwybrau sydd eisoes yn bodloni’r safonau y cytunwyd arnynt (llwybrau presennol)?
3. A oes llwybrau ar goll o’r rhwydwaith arfaethedig a fyddai’n cefnogi eich teithiau teithio llesol bob dydd?