Ymgynghoriad Teithio Llesol Gwynedd 2026
A fyddai posib i chi gwblhau’r holiadur yma ynglŷn ag ymgynghoriad cyhoeddus cerdded, olwyno a beicio Cyngor Gwynedd?
- Cerdded – Os ydych yn cerdded i'r gwaith, yr ysgol, y siopau neu am dro hamdden, mae eich profiadau'n bwysig. Rhannwch eich barn a helpwch ni i wneud cerdded yng Ngwynedd yn fwy diogel, cyfleus a chroesawgar i bawb.
- Olwyno - Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, sgwter symudedd neu gymorth symudedd arall, rydym am glywed eich profiadau. Dywedwch wrthym os oes rhwystrau yr ydych yn eu hwynebu, a'r gwelliannau a allai wneud teithio o gwmpas Gwynedd yn haws ac yn fwy hygyrch.
- Beicio – Os ydych yn beicio'n ddyddiol neu yn achlysurol, gall eich adborth helpu i lunio rhwydwaith beicio gwell ar gyfer y dyfodol. Rhannwch eich syniadau ar sut y gallwn greu llwybrau beicio mwy diogel, cysylltiedig â deniadol i bobl o bob oed a gallu.
Bydd syniadau llwyddiannus yn darparu sail i ni ddatblygu a chynllunio gwelliannau i rwydwaith cerdded, olwyno a beicio Gwynedd yn y dyfodol, lle bo hynny’n bosibl ac yn ymarferol.
Mae’r holiadur yn cynnwys 7 cwestiwn byr, mae cwestiwn 7 yn rhoi cyfle i chi rannu manylion am eich adborth. Bydd yr holiadur yn cymryd rhwng 5 a 10 munud i’w gwblhau.
Os ydych yn rhoi gwybodaeth ar gyfer mwy nag un lleoliad, llenwch holiadur ar wahân ar gyfer pob un.
Darllenwch sut mae'r Cyngor yn ymdrin â data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau. .
Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth a'ch hawliau, cliciwch yma.
