Ymgynghoriad Teithio Llesol Gwynedd 2026

A fyddai posib i chi gwblhau’r holiadur yma ynglŷn ag ymgynghoriad cyhoeddus cerdded, olwyno a beicio Cyngor Gwynedd?

  • Cerdded – Os ydych yn cerdded i'r gwaith, yr ysgol, y siopau neu am dro hamdden, mae eich profiadau'n bwysig. Rhannwch eich barn a helpwch ni i wneud cerdded yng Ngwynedd yn fwy diogel, cyfleus a chroesawgar i bawb.
  • Olwyno - Os ydych yn defnyddio cadair olwyn, sgwter symudedd neu gymorth symudedd arall, rydym am glywed eich profiadau. Dywedwch wrthym os oes rhwystrau yr ydych yn eu hwynebu, a'r gwelliannau a allai wneud teithio o gwmpas Gwynedd yn haws ac yn fwy hygyrch.
  • Beicio – Os ydych yn beicio'n ddyddiol neu yn achlysurol, gall eich adborth helpu i lunio rhwydwaith beicio gwell ar gyfer y dyfodol. Rhannwch eich syniadau ar sut y gallwn greu llwybrau beicio mwy diogel, cysylltiedig â deniadol i bobl o bob oed a gallu.

Bydd syniadau llwyddiannus yn darparu sail i ni ddatblygu a chynllunio gwelliannau i rwydwaith cerdded, olwyno a beicio Gwynedd yn y dyfodol, lle bo hynny’n bosibl ac yn ymarferol.

Mae’r holiadur yn cynnwys 7 cwestiwn byr, mae cwestiwn 7 yn rhoi cyfle i chi rannu manylion am eich adborth. Bydd yr holiadur yn cymryd rhwng 5 a 10 munud i’w gwblhau.

Os ydych yn rhoi gwybodaeth ar gyfer mwy nag un lleoliad, llenwch holiadur ar wahân ar gyfer pob un.

Darllenwch sut mae'r Cyngor yn ymdrin â data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau. .

Am ragor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth a'ch hawliau, cliciwch yma.

1. Pwy sydd yn ymateb
4. Pa broblemau ydych chi’n sylwi arnynt? (Gellir dewis mwy nag un opsiwn)
5. Beth ydych chi’n rhoi adborth arno?
6. Sut gellid gwella’r lleoliad? Beth fyddai’n gwneud y lleoliad hwn yn well ar gyfer cerdded / olwyno (cadair olwyn neu sgwter symudedd ayyb) neu feicio? (Gellir dewis mwy nag un opsiwn.)