Penododd Llywodraeth Cymru Noise Consultants Ltd (NCL) i gynhyrchu mapiau sŵn strategol ar gyfer Cymru yn 2022, gan ddefnyddio System Modelu Sŵn newydd a ddatblygwyd gan NCL ar gyfer Defra. O ganlyniad, roedd Gweinidogion Cymru wedi cyflawni’u dyletswyddau 2022 o dan Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006, sef i wneud mapiau sŵn strategol ar gyfer y prif ffyrdd, y prif reilffyrdd a’r prif ardaloedd trefol (“crynhoadau”) bob pum mlynedd, gan ddechrau yn 2007. Er mwyn gwneud mapiau sŵn 2022 yn fwy defnyddiol, er enghraifft i awdurdodau cynllunio weithredu'r TAN 11 newydd, aethom y tu hwnt i ofynion y ddeddfwriaeth y tro hwn a mapio sŵn yn gyson ar bob ffordd a rheilffordd ledled Cymru. Nid yw allbynnau ymarfer mapio sŵn 2022 yn debyg i unrhyw fapiau sŵn a gynhyrchwyd o'r blaen, gan fod dulliau mapio sŵn newydd wedi'u cyflwyno a'u trosi i gyfraith y Deyrnas Unedig cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r dulliau hyn yn cyfrifo allyriadau sŵn a chysylltiad y boblogaeth breswyl â’r allyriadau hynny yn wahanol i'r dulliau a ddefnyddiwyd mewn rowndiau blaenorol. Fodd bynnag, oherwydd ein bod wedi defnyddio System Modelu Sŵn newydd Defra, ystyrir bod mapiau sŵn 2022 Cymru yn weddol gymharol â'r mapiau sŵn 2022 sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer Lloegr ac yn gyson â hwy.

Nodyn: (1) Er y’u gelwir yn fapiau sŵn at ddibenion y Rheoliadau, byddai'n fwy cywir eu galw'n fapiau sain . Mae'r term sŵn yn cyfeirio at sŵn diangen neu niweidiol. (2) Mae'r gwerthoedd yn cael eu cyfrifo, nid eu mesur, a dylid eu trin yn ofalus wrth edrych ar leoliadau penodol. (3) Mae ymateb dynol i sŵn diwydiannol yn ddibynnol iawn ar natur y sain sy'n cael ei chlywed ac ar lefel masgio gan draffig ffyrdd, ac nid yw'r ffactorau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y mapiau sŵn diwydiannol, gan eu gwneud o werth ymarferol cyfyngedig i reoleiddwyr.

  • Lden: yn dangos y lefel sain ar gyfartaledd trwy’r adeg gyda phwysoliad ychwanegol yn cael ei roi i'r cyfnodau gyda'r nos ac yn ystod y nos.
  • Lnight: yn dangos y lefel sain ar gyfartaledd ar gyfer y cyfnod 8 awr o 2300 i 0700. Yn debyg i'r dangosydd LAeq, 8h a ddefnyddir mewn asesiadau TAN11, ond yma cyfrifwyd ar uchder o 4 metr yn hytrach na 1.2-1.5 metr.
  • LAeq,16h: yn dangos y lefel sain ar gyfartaledd ar gyfer y cyfnod 16 awr o 0700 i 2300. Yn debyg i'r dangosydd LAeq, 16h a ddefnyddir mewn asesiadau TAN11, ond yma cyfrifwyd ar uchder o 4 metr yn hytrach na 1.2-1.5 metr.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (9)

Lawrlwytho data gofodol
  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 - Sŵn traffig ffyrdd (dB) - pob ffordd (L16h) 2022

  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 - Sŵn traffig ffyrdd (dB) - pob ffordd (Lnight) 2022

  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 - Sŵn traffig ffyrdd (dB) - pob ffordd (Lden) 2022

  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 – Sŵn rheilffordd (dB) - pob rheilffordd (L16h) 2022

  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 – Sŵn rheilffordd (dB) - pob rheilffordd (Lden) 2022

  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 – Sŵn rheilffordd (dB) - pob rheilffordd (Lnight) 2022

  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 – Sŵn diwydiannol (dB) - pob diwydiant (Lnight) 2022

  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 – Sŵn diwydiannol (dB) - pob diwydiant (Lden) 2022

  • Mapio Sŵn Amgylcheddol 2022 – Sŵn diwydiannol (dB) - pob diwydiant (L16h) 2022

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Geiriau allweddol:
Environment, noise
Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn