Mae pob cydran sy'n ffurfio amlen adeilad yn sensitif i amrywiaeth o straenachosion hinsawdd ac wrth i'r straenachosion hyn newid felly hefyd mae'r hychwant oes disgwyliedig ar gyfer cydrannau ffabrig. Mae'r newid hwn mewn cyfradd diraddio yn cyfateb i newid mewn costau amnewid dros gyfnod tybiedig o 20 mlynedd. Er nad yw pob cydran ffabrig adeiladu yn agored i bob straenachos hinsawdd, mae'r newid canran o linell sylfaen mewn cost amnewid ar gyfer y cydrannau hynny sy'n agored i straen hinsawdd penodol wedi'u mapio. Mae straenachosion hinsawdd a ystyrir yn cynnwys mwy o wlybaniaeth, mwy o leithder cymharol a mwy o ddarheulad.

Cyflwynir data ar gyfer pob grid data hinsawdd o fewn ffiniau tref neu ddinas ac mae'n cynrychioli'r flwyddyn gyfartalog yn y cyfnod amser ar gyfer y modelau canradd 50 o blith y gyfres 12 model. CIiciwch ar grid i weld y canlyniadau canradd 95 cysylltiedig. Y cyfnodau amser yw 2030 (2021-2040) a 2070 (2061-2080).

Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yma: Dadansoddiad Hinsawdd Tai Cymru Gwybodaeth Ychwanegol

Mae mapiau sy'n cyd-fynd â'r gyfres hon i'w gweld yma:

Rhagamcaniadau Hinsawdd sy'n cynnwys Tymheredd Uchaf Dyddiol, Dyodiad Blynyddol, Lleithder Cymharol Dyddiol a Lleithder Penodol Dyddiol

Canlyniadau Amodau Dan Do sy'n cynnwys Ansawdd Aer Dan Do a Gorboethi

Canlyniadau Diraddio Adeiladwaith sy'n cynnwys Darheulad, Dyodiad a Lleithder Cymharol

Mae Astudiaethau Achos ar gyfer pedair tref a dinas gynrychioliadol yn dangos canlyniadau ar gydraniad o 2.2 km, gan roi syniad o'r amrywiad a ragfynegir yn ddaearyddol ar draws pob ardal:

Aberystwyth sy'n cynnwys Hinsawdd, Dan Do a Ffabrig

Caerdydd sy'n cynnwys Hinsawdd, Dan Do a Ffabrig

Abertawe sy'n cynnwys Hinsawdd, Dan Do a Ffabrig

Wrecsam sy'n cynnwys Hinsawdd, Dan Do a Ffabrig

I gael gwell dealltwriaeth o effaith gorboethi yn ystod yr haf ar dai sydd wedi'u hinswleiddio'n helaeth ac awgrymiadau ar ddulliau o fynd i'r afael â nhw ewch i: Ystyried gorboethi yn ystod yr haf mewn cartrefi sydd wedi’u hinswleiddio’n sylweddol: taflen ffeithiau | LLYW.CYMRU

I gael gwell dealltwriaeth o effaith gorboethi yn ystod yr haf ar eiddo ôl-1985 (gan gynnwys adeiladau hŷn wedi'u troi'n fflatiau) ac awgrymiadau ar ddulliau o fynd i'r afael â nhw ewch i: Ystyried gorboethi yn ystod yr haf mewn eiddo ôl-1985 (gan gynnwys adeiladau hŷn wedi’u troi’n fflatiau): taflen ffeithiau | LLYW.CYMRU

I gael gwell dealltwriaeth o effaith lleithder cymharol yn ystod yr haf mewn eiddo hŷn ac awgrymiadau ar ddulliau o fynd i'r afael â nhw ewch i: Ystyried lleithder cymharol yn ystod yr haf mewn adeiladau hŷn: taflen ffeithiau | LLYW.CYMRU

I gael gwell dealltwriaeth o flaenoriaethau cynnal a chadw, atgyweirio ac addasu eiddo hŷn, traddodiadol o dan hinsawdd sy'n newid, ewch i: Ystyried blaenoriaethau atgyweirio, cynnal a chadw ac addasu ar gyfer eiddo hŷn: taflen ffeithiau | LLYW.CYMRU

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (6)

Lawrlwytho data gofodol
  • Dyodiad - 2030

    Ni ddarparwyd crynodeb.

  • Lleithder cymharol - 2070

    Ni ddarparwyd crynodeb.

  • Lleithder cymharol - 2030

    Ni ddarparwyd crynodeb.

  • Darheulad - 2070

    Ni ddarparwyd crynodeb.

  • Dyodiad - 2070

    Ni ddarparwyd crynodeb.

  • Darheulad - 2030

    Ni ddarparwyd crynodeb.

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Heb ei nodi

Hawlfraint:

Ddim yn berthnasol

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn