Buddsoddiad Cyfalaf mewn Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2025-26
Llywodraeth Cymru
Ym mis Mawrth 2025, cytunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y cynlluniau a fyddai’n cael eu cynnwys yn y Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol ar gyfer 2025-26. Nod y cynlluniau hyn, sy’n cael eu harwain gan yr Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru, yw lleihau perygl llifogydd a/neu erydu arfordirol i gartrefi ledled Cymru.
Ansawdd data
Mae’r map hwn yn dangos yn fras lleoliadau’r cynlluniau y dyrannwyd cyllid ar eu cyfer ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.
Darparwyd yr wybodaeth ar y map hwn gan yr Awdurdodau Lleol a CNC a nhw sy’n gyfrifol am ymgymryd â’r cynlluniau hyn. Er bod y cyllid hwn wedi cael ei ddyrannu ar gyfer y cynlluniau hyn, mater i’r Awdurdod Rheoli Risg Priodol (yr Awdurdodau Lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru) yw bwrw ymlaen ac ymgymryd â’r cynlluniau hyn. Mae cyllid i fwrw ymlaen â’r gwaith adeiladu yn amodol ar gwblhau a chytuno ar achos busnes priodol ac ar gael y caniatâd a’r cysyniadau perthnasol.
Mae costau’n dal i fod yn amcangyfrifon nes i’r gwaith gael ei roi ar dendr.
Isafswm graddfa wedi'i gosod fel 1:100,000 mewn map. Mae hyn oherwydd gwybodaeth lleoliad fras a roddwyd gan yr Awdurdodau Rheoli Risg.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Dysgwch sut i ddefnyddio dyfeisiau OWS (WMS a WFS)
Data gofodol (6)
-
Cyllid Craidd Cyfoeth Naturiol Cymru 2025-2026
Mae’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn rhoi cyllid grant i’r Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fuddsoddi mewn gwaith …
-
Ymaddasu Arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru 2025-2026
Mae’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn rhoi cyllid grant i’r Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fuddsoddi mewn gwaith …
-
Grant Gwaith ar Raddfa Fach 2025-2026
Mae’r Grant Gwaith ar Raddfa Fach yn rhoi cyllid i’r Awdurdodau Lleol mewn ffordd symlach er mwyn iddynt fedru ymgymryd …
-
Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) 2025-2026
Mae’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn rhoi cyllid grant i’r Awdurdodau Lleol fuddsoddi mewn gwaith cyfalaf i …
-
Y Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol 2025-2026
Mae’r Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol (CRMP) yn ategu’r rhaglen graidd ar lifogydd, gan gynnig cymorth drwy fuddsoddi yng nghynlluniau cyfalaf …
-
Cronfa Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2025-2026
Mae gweithio gyda'r amgylchedd a phrosesau naturiol yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli perygl llifogydd. Mae'r Gronfa Rheoli Llifogydd Naturiol …
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Dyddiad cyhoeddi:
- 18 Mawrth 2025
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- floodcoastalrisk@gov.wales
- Iaith
- Saesneg
- Ei hyd o ran amser
- Mawrth 5, 2025, canol nos - Mawrth 5, 2025, canol nos
- Math o Gynrychioliad Gofodol
- Defnyddir data fector i gynrychioli data daearyddol