Mapiau Cyngor ar Ddatblygu (DAM)
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae’r Map Cyngor Datblygu bellach wedi’i archifo. Dim ond i gefnogi cynigion cynllunio a ddilyswyd cyn 31 Mawrth 2025 ac sydd eisoes ar y gweill y dylid ei ddefnyddio.
Dylid asesu cynigion cynllunio a gyflwynir o 31 Mawrth 2025 ymlaen yn erbyn polisi cynllunio diwygiedig, Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol, a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.
Mae’r Map Cyngor Datblygu sydd wedi’i archifo yn dangos ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd a’r môr.
Diweddarwyd parth C (yr amlinelliad llifogydd eithafol bob 1,000 mlynedd) ddiwethaf ym mis Ionawr 2020. Nid oes unrhyw ddiweddariadau pellach wedi’u cynllunio ar gyfer y Map Cyngor Datblygu, ac fe’ch cynghorir i gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch argaeledd gwybodaeth fwy cyfredol.
Cyhoeddwyd parth B (ardaloedd y gwyddys eu bod wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol) yn wreiddiol yn 2004, ac fe’i diwygiwyd yn 2017.
Gellir gweld y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, a’i lawrlwytho o MapDataCymru. Mae’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn dangos graddfa llifogydd nas amddiffynnir dros y 100 mlynedd nesaf, gan ystyried effeithiau newid hinsawdd. Dylid defnyddio hwn fel offeryn sgrinio i nodi pa gynigion datblygu y gallai fod angen iddynt gynnal asesiad mwy manwl o risgiau a chanlyniadau llifogydd yn unol â’r cyngor polisi a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol.
Datganiad priodoli
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Derived in part from 1:50,000 scale BGS Digital Data under Licence Number 2013/062. British Geological society. ©NERC
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Dysgwch sut i ddefnyddio dyfeisiau OWS (WMS a WFS)
Data gofodol (3)
- nrw_dam_zone_c2
- nrw_dam_zone_c1
- nrw_dam_zone_b
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Dyfroedd Mewndirol
- Dyddiad cyhoeddi:
- 24 Hydref 2022
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Iaith
- Saesneg