Planhigion microsgopig sy’n byw’n rhydd yw diatomau dŵr croyw (ffytobenthos) sy’n ffurfio bioffilm ar swbstradau tanddwr fel creigiau/cerrig neu blanhigion mawr. Fe’u defnyddir fel dangosyddion ansawdd dŵr oherwydd bod eu cregyn silica yn hawdd eu hadnabod o dan ficrosgop. Mae’r set ddata hon yn cynnwys digonedd cymharol y gwahanol rywogaethau o fewn y sampl o arolygon diatomau dŵr croyw a gynhaliwyd ledled Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru cyn hynny. Cynhelir yr arolygon hyn fel rhan o waith monitro parhaus ansawdd dŵr afonydd ar gyfer gofynion deddfwriaethol ac i fodloni gyrwyr busnes. 

Defnyddir methodoleg gaeth wrth samplu diatomau dŵr croyw. Mae’r gwaith samplu diatomau yn cael ei wneud fel rhan o’r rhaglen ecoleg dŵr croyw arferol am nifer o wahanol resymau (y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, adnoddau dŵr, y Rhwydwaith Newid Amgylcheddol ac ati). Gellir ychwanegu at y safleoedd hyn ar gyfer gwaith ymchwiliol, neu ar sail ad hoc. Mae ardaloedd samplu wedi’u lleoli gydag ardal arolwg fwy ac mae’n rhaid iddynt fod yn gynrychioliadol o’r ardal gyffredinol lle cynhelir yr arolwg. Dull crafu carreg yw’r dull a ddefnyddir amlaf ar gyfer samplu diatomau dŵr croyw. Fodd bynnag, lle bo angen, defnyddir dulliau amgen, er enghraifft mewn ardaloedd heb unrhyw swbstrad addas. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu ac yn dadansoddi dros 350 o samplau diatomau o afonydd a llynnoedd bob blwyddyn. Unwaith y bydd samplau wedi’u casglu, maent yn cael eu dadansoddi gan ecolegwyr dŵr croyw CNC. 

Golygiadau

Mae rhywfaint o wybodaeth wedi’i olygu i sicrhau bod y data ar gael yn agored. Mae hyn yn cynnwys:

• Data trydydd parti
• Data a gasglwyd ar gyfer ymchwiliadau parhaus
• Arolygon wedi’u canslo neu heb eu cwblhau

Amlder Diweddaru

Mae’r data hyn yn cael eu diweddaru’n barhaus, gyda mwyafrif yr arolygon yn cael eu cynnal yn y gwanwyn a’r hydref. Yn aml, nid yw data o dymhorau arolygon yn cael eu mewnbynnu ar adeg eu cipio a gall fod sawl mis cyn iddynt gael eu rhoi yn y system. Mae’r set ddata allanol yn cael ei diweddaru yn fisol i gynnwys data newydd, a gall hefyd gynnwys cywiriadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd gwaith sicrhau ansawdd. 

Rhybuddion Gwybodaeth

  • Gwnawn ein gorau i osgoi problemau ansawdd data, ond gan fod y setiau data hyn yn adlewyrchu’r data sydd gennym, gallant gynnwys gwallau.
  • Ar hyn o bryd, mae gwall o fewn y system sy’n golygu bod rhai gwerthoedd y Mynegai Diatom Troffig (TDI) yn cael eu cyfrifo’n anghywir ac yn rhoi gwerthoedd negyddol. Mae’r mater hwn wedi’i nodi gan ein datblygwyr a bydd yn cael ei gywiro yn niweddariad nesaf y system.
  • Darperir y data fel set o dablau data cysylltiedig oherwydd maint a strwythur y data. Tybir dealltwriaeth sylfaenol o ecoleg a data perthynol.
  • Ni ryddheir data sy’n ymwneud ag ymchwiliadau i achosion o lygredd neu wybodaeth am rywogaethau a warchodir gan y gallai gwybodaeth am leoliad y safleoedd hyn fod yn niweidiol i ymchwiliadau parhaus neu waith gwarchod rhywogaethau. 

Gwybodaeth bellach

Gweler y ddogfen ganlynol am wybodaeth bellach

Gellir gweld a lawrlwytho data'r tacsonau hefyd o Atlas yr NBN. Mae cael mynediad at ddata'r tacsonau fel hyn yn cynnig nifer o fanteision. Gellir ei weld ochr yn ochr ag ystod eang o dacsonau o arolygon eraill a gynhaliwyd gan unigolion a sefydliadau amrywiol. At hynny, gellir archwilio’r tacsonau drwy eu hierarchaeth dacsonomig lawn drwy integreiddio â Rhestr Rhywogaethau’r DU, sef y gronfa ddata fwyaf cynhwysfawr sydd wedi’i churadu o dacsonomeg ac enwau bywyd gwyllt y DU.

Atlas yr NBN

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (3)

Lawrlwytho data gofodol
  • Diatom Taxa

  • Diatom Survey Sites

  • Diatom Sample Metrics

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn