Defnyddir pysgod morol fel dangosydd statws stoc ac ansawdd dŵr a chynefin. Mae’r set ddata hon yn cynnwys y cyfrif rhywogaethau a’r gwerthoedd hyd o’r arolygon pysgod a gynhaliwyd ar draws amgylchedd morol Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru cyn hynny. Cynhelir yr arolygon hyn fel rhan o waith monitro parhaus o bysgod yn eu hamgylchedd naturiol ar gyfer gofynion deddfwriaethol ac i fodloni ysgogwyr busnes.

Defnyddir methodoleg lem wrth samplu pysgod morol. Mae rhwydwaith craidd o safleoedd sy'n cael eu monitro'n rheolaidd. Mae'r safleoedd hyn wedi'u lleoli mewn mathau o gynefin sy'n addas ar gyfer y rhywogaethau pysgod priodol. Yn ogystal, gellir samplu safleoedd ar gyfer gwaith ymchwiliol neu ar sail ad hoc. Unwaith y bydd sampl o bysgod yn cael ei chasglu, cânt eu hadnabod ar unwaith yn y maes, eu mesur a'u cyfrif, ac yna eu rhyddhau'n fyw o'r man lle cawsant eu dal.

Golygiadau

Mae rhywfaint o wybodaeth wedi’i golygu i sicrhau bod y data ar gael yn agored. Mae hyn yn cynnwys:

  • Data trydydd parti
  • Data a gasglwyd ar gyfer ymchwiliadau parhaus
  • Arolygon wedi’u canslo neu heb eu cwblhau

Amlder Diweddaru

Mae'r data hwn yn cael ei ddiweddaru'n barhaus gyda'r rhan fwyaf o'r newidiadau'n cael eu gwneud yn gynnar yn yr hydref. Yn aml, nid yw data o dymhorau arolygon yn cael ei fewnbynnu ar adeg ei gipio a gall gymryd sawl mis cyn iddo gael ei roi yn y system. Mae'r set ddata allanol yn cael ei diweddaru'n fisol i gynnwys data newydd, a gall hefyd gynnwys cywiriadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol oherwydd gwaith sicrhau ansawdd.

Rhybuddion Gwybodaeth

  • Mae data arolygon pysgod morol ar gael o 1997 hyd heddiw. Cafeat yw bod data hanesyddol yn ysbeidiol tan 2001. Mae hyn oherwydd bod data arolygon pysgod a gasglwyd cyn 2001 yn aml yn cael ei gadw mewn cronfeydd data lleol ac nid y rhai cenedlaethol (KiEco ac NFPD gynt).
  • Mae arolygon pysgod yn cael eu cynnal trwy amrywiaeth o ddulliau arolygu ac nid yw'r data o un arolwg o reidrwydd yn uniongyrchol gymaradwy ag un arall. Argymhellir y defnyddiwr i wirio'r dull arolygu a ddefnyddiwyd yn y data a ddarperir.
  • Gwnawn ein gorau i osgoi problemau ansawdd data, ond gan fod y setiau data hyn yn adlewyrchu’r data sydd gennym, gallant gynnwys gwallau.
  • Darperir y data fel set o dablau data cysylltiedig oherwydd maint a strwythur y data. Rhagdybir dealltwriaeth sylfaenol o wyddor pysgodfeydd a chronfeydd data perthynol.

Gwybodaeth bellach

Gweler y ddogfen ganlynol am wybodaeth bellach

Gellir gweld a lawrlwytho data'r tacsonau hefyd o Atlas yr NBN. Mae cael mynediad at ddata'r tacsonau fel hyn yn cynnig nifer o fanteision. Gellir ei weld ochr yn ochr ag ystod eang o dacsonau o arolygon eraill a gynhaliwyd gan unigolion a sefydliadau amrywiol. At hynny, gellir archwilio’r tacsonau drwy eu hierarchaeth dacsonomig lawn drwy integreiddio â Rhestr Rhywogaethau’r DU, sef y gronfa ddata fwyaf cynhwysfawr sydd wedi’i churadu o dacsonomeg ac enwau bywyd gwyllt y DU.

Atlas yr NBN

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (3)

Lawrlwytho data gofodol
  • Marine Fish Total Counts

  • Marine Fish Site Details

  • nrw_marine_fish_individually_measured

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn