Adnabod
- Teitl
- Mapio ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer cynllunio gofodol morol yng Nghymru
- Crynodeb

Mae'r setiau data hyn yn deillio o nifer o setiau data sy'n nodi presenoldeb nodweddion gwarchodedig yn nyfroedd Cymru. Cyflwynir y data ar gridiau hecsagonol 1 km2.

Mae rhagor o fanylion am y fethodoleg wedi'u cynnwys yn yr adroddiad canlynol:

Murray, L.G., Bloomfield, H. a Skates, L. (2023). Mapping Environmental Considerations for Marine Spatial Planning in Wales: Methodology. Adroddiad i Lywodraeth Cymru. Bangor, Cyfoeth Naturiol Cymru. 48tt.

Ystyriwyd y cyfnod gweithredol ar gyfer pob sector ar gyfer pob grŵp nodwedd, ac mae'n cynnwys gweithgareddau cynnal a chadw. Dim ond ar gyfer sectorau lle mae effeithiau adeiladu posibl yn wahanol iawn i'r rhai gweithredu (ynni llif y llanw, ynni’r tonnau, ynni amrediad y llanw, ynni gwynt arnofiol ar y môr a cheblau) y cafodd y cam adeiladu ei ystyried. Fodd bynnag, ar gyfer grŵp nodwedd Adar, dim ond ar gyfer amediad llanw a cheblau y cafodd y cam adeiladu ei ystyried. Roedd y fethodoleg sgorio yn cynnwys tri phrif gam:

Mae'r sgôr digwyddiad yn adlewyrchu naill ai presenoldeb neu absenoldeb, neu helaethrwydd safonedig (lle’r oedd data helaethrwydd ar gael) o nodweddion (h.y., rhywogaethau, cynefinoedd, neu safleoedd gwarchodedig) ac fe'u sgoriwyd o 1 i 3 ar raddfa barhaus lle mai 1 oedd y dwysedd isaf a 3 yr uchaf ar gyfer pob nodwedd.

Mae'r sgôr pwysigrwydd cadwraeth yn amcangyfrif o lefel yr amddiffyniad sydd gan bob nodwedd yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth sy'n gwarchod nodwedd. Mae'n bwysig nodi bod yr holl nodweddion a gynhwysir yn y gwaith hwn yn cael eu gwarchod o dan ddeddfwriaeth amrywiol ac mae pob un ohonynt yn ystyriaethau pwysig wrth gynllunio datblygiadau. Sgoriwyd y cam hwn o 1 i 5.

Cymhwyswyd sgôr effaith i adlewyrchu effeithiau posibl ar nodweddion yn seiliedig ar y pwysau tebygol a gynhyrchir gan bob sector ar gyfer pwysau gweithredol pob un o'r sectorau ffocws ac, ar wahân i hyn, pwysau adeiladu ar gyfer rhai sectorau. Lle ystyriwyd bod diffyg tystiolaeth, yna cymhwyswyd sgôr uwch. Nid oedd y dull gweithredu presennol yn asesu technolegau penodol yn unigol ond ystyriodd y pwysau posibl a allai ddeillio o sector a'u potensial i effeithio'n negyddol ar bob un o'r nodweddion. Sgoriwyd y cam hwn o 1 i 3.

Cyfrifwyd cyfanswm sgôr ar gyfer pob nodwedd ym mhob cell, a chyfunwyd y rhain ar gyfer pob cell grid hecsagonol 1 km2, gan ddarparu sgôr 'ystyriaethau amgylcheddol' cymharol ar gyfer pob grŵp nodwedd fesul sector. Roedd y dull a ddefnyddiwyd i sgorio ychydig yn wahanol rhwng grwpiau nodwedd yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

For information on the data schema follow this link.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Scottish National Heritage, Swyddfa Hydrograffig y DU, RSPB, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, Y Gymdeithas Cadwraeth Morol, Cefas, Llywodraeth Cymru ac Arolwg Ordnans. Rhif trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawliau Cronfa Ddata.

- Trwydded
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Hawlfraint:
- Publication Date
- 24 Hydref 2023
- Math
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Rhanbarthau
- Global
- Wedi'i gymeradwyo
- Ydy
- Cyhoeddwyd
- Ydy
- Wedi'i gynnwys
- Nac ydy
- Grŵp
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwybodaeth
- Maint gofodol
- System daflunio
- EPSG:32630
- Estyniad x0
- 239647.640625
- Estyniad x1
- 523778.625
- Estyniad y0
- 5653454.0
- Estyniad y1
- 5970452.5
Nodweddion
Cyswllt
- E-bost
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Sefydliad
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfeirnodau
- Dolen ar-lein
- /layergroups/geonode:nrw_mecmp
- Tudalen fetadata
- /layergroups/geonode:nrw_mecmp/metadata_detail