Mae'r setiau data hyn yn deillio o nifer o setiau data sy'n nodi presenoldeb nodweddion gwarchodedig yn nyfroedd Cymru. Cyflwynir y data ar gridiau hecsagonol 1 km2.

Mae rhagor o fanylion am y fethodoleg wedi'u cynnwys yn yr adroddiad canlynol:

Murray, L.G., Bloomfield, H. a Skates, L. (2023). Mapping Environmental Considerations for Marine Spatial Planning in Wales: Methodology. Adroddiad i Lywodraeth Cymru. Bangor, Cyfoeth Naturiol Cymru. 48tt.

Ystyriwyd y cyfnod gweithredol ar gyfer pob sector ar gyfer pob grŵp nodwedd, ac mae'n cynnwys gweithgareddau cynnal a chadw. Dim ond ar gyfer sectorau lle mae effeithiau adeiladu posibl yn wahanol iawn i'r rhai gweithredu (ynni llif y llanw, ynni’r tonnau, ynni amrediad y llanw, ynni gwynt arnofiol ar y môr a cheblau) y cafodd y cam adeiladu ei ystyried. Fodd bynnag, ar gyfer grŵp nodwedd Adar, dim ond ar gyfer amediad llanw a cheblau y cafodd y cam adeiladu ei ystyried. Roedd y fethodoleg sgorio yn cynnwys tri phrif gam:

  1. Mae'r sgôr digwyddiad yn adlewyrchu naill ai presenoldeb neu absenoldeb, neu helaethrwydd safonedig (lle’r oedd data helaethrwydd ar gael) o nodweddion (h.y., rhywogaethau, cynefinoedd, neu safleoedd gwarchodedig) ac fe'u sgoriwyd o 1 i 3 ar raddfa barhaus lle mai 1 oedd y dwysedd isaf a 3 yr uchaf ar gyfer pob nodwedd.

  2. Mae'r sgôr pwysigrwydd cadwraeth yn amcangyfrif o lefel yr amddiffyniad sydd gan bob nodwedd yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth sy'n gwarchod nodwedd. Mae'n bwysig nodi bod yr holl nodweddion a gynhwysir yn y gwaith hwn yn cael eu gwarchod o dan ddeddfwriaeth amrywiol ac mae pob un ohonynt yn ystyriaethau pwysig wrth gynllunio datblygiadau. Sgoriwyd y cam hwn o 1 i 5.

  3. Cymhwyswyd sgôr effaith i adlewyrchu effeithiau posibl ar nodweddion yn seiliedig ar y pwysau tebygol a gynhyrchir gan bob sector ar gyfer pwysau gweithredol pob un o'r sectorau ffocws ac, ar wahân i hyn, pwysau adeiladu ar gyfer rhai sectorau. Lle ystyriwyd bod diffyg tystiolaeth, yna cymhwyswyd sgôr uwch. Nid oedd y dull gweithredu presennol yn asesu technolegau penodol yn unigol ond ystyriodd y pwysau posibl a allai ddeillio o sector a'u potensial i effeithio'n negyddol ar bob un o'r nodweddion. Sgoriwyd y cam hwn o 1 i 3.

Cyfrifwyd cyfanswm sgôr ar gyfer pob nodwedd ym mhob cell, a chyfunwyd y rhain ar gyfer pob cell grid hecsagonol 1 km2, gan ddarparu sgôr 'ystyriaethau amgylcheddol' cymharol ar gyfer pob grŵp nodwedd fesul sector. Roedd y dull a ddefnyddiwyd i sgorio ychydig yn wahanol rhwng grwpiau nodwedd yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

For information on the data schema follow this link.

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Scottish National Heritage, Swyddfa Hydrograffig y DU, RSPB, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, Y Gymdeithas Cadwraeth Morol, Cefas, Llywodraeth Cymru ac Arolwg Ordnans. Rhif trwydded Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a Hawliau Cronfa Ddata.

Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall

Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.

Diweddbwyntiau OWS

Data gofodol (4)

Lawrlwytho data gofodol
  • Mapping Environmental Considerations for Marine Planning - Fish

  • Mapping Environmental Considerations for Marine Planning - Habitats Benthic Species

  • Mapping Environmental Considerations for Marine Planning - Mammals

  • Mapping Environmental Considerations for Marine Planning - Birds

Lawrlwytho metadata

Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)

Dangos yn y syllwr mapiau

Neu ddangos data ar fap cyfredol

Math:
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Dyddiad cyhoeddi:
Trwydded:
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Pwynt cyswllt:
Iaith
Saesneg
Darllenwch y metadata llawn