Adnabod

Teitl
Adfer Mawndir Cymru
Crynodeb

Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) yn cydlynu gwaith adfer mawndir ledled Cymru, ac yn rhoi adroddiadau i Lywodraeth Cymru a’r DU ar weithgarwch adfer.

Mae'r haen hon o Weithgareddau Adfer Mawndir Cymru yn cydgasglu mapiau o'r gwaith adfer a wnaed ledled Cymru yn uniongyrchol gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) yn CNC a hefyd gan ei sefydliadau partner.

Cyflwynir gweithgareddau adfer ar ffurf polygonau ac ynddynt briodoleddau sy'n dangos y math o weithgaredd yn fras, y safle, y sefydliad cyflawni, a dyddiad dechrau a gorffen y gwaith adfer.

Er mwyn sicrhau cysondeb a thryloywder wrth gofnodi ac adrodd data, diffinnir system adrodd safonedig yn Gweithgareddau adfer mawndiroedd yng Nghymru: dosbarthiad a chodau gweithgaredd.  Rhennir gweithgareddau adfer yn fras i bum math o weithgaredd: Rheolaeth Hydrolegol, Rheoli Erydiad, Rheoli Coed, Rheoli Llystyfiant a Phori.

Nod Rheolaeth Hydrolegol yw gwrthdroi effaith gweithgareddau niweidiol sydd wedi arwain at newidiadau niweidiol i gyfundrefnau hydrolegol.

Nod Rheoli Erydiad yw lleihau effaith nodweddion erydiad fel migwyn a cheunentydd.  Mae'r nodweddion hyn yn datgelu ardaloedd o fawn noeth sy'n dueddol o ddiraddio ymhellach os cânt eu gadael heb eu rheoli.

Nod Rheoli Coed yw lleihau effaith coed ar fawndir. Mae'r rhan fwyaf o dechnegau Rheoli Coed ar gyfer adfer mawndir yn cynnwys ymdrin â phlanhigfeydd conwydd. Ceir hefyd weithgareddau sy'n mynd i'r afael â phresenoldeb coed llydanddail.

Nod Rheoli Llystyfiant yw rheoli goruchafiaeth niferoedd bach o rywogaethau toreithiog (e.e. Molinia, Calluna) er mwyn sicrhau adferiad a pharhad llystyfiant corsydd.

Mae gweithgareddau pori yn anelu i adfer a rheoli mawndiroedd drwy addasu trefniadau pori.

Diweddarwyd y map hwn ddiwethaf i gynnwys gweithgareddau adfer a adroddwyd i 31 Mawrth 2026.

Caiff gweithgareddau adfer eu cofnodi i ddechrau gan NPAP a'i phartneriaid fel pwyntiau, polylinellau a pholygonau yn unol â Gweithgareddau adfer mawndiroedd yng Nghymru: dosbarthiad a chodau gweithgaredd. Yna caiff polygonau gweithgaredd adfer eu creu i gynrychioli'r ardal o fawndir a dargedir gan bob math o weithgaredd, yn unol â chonsensws a'r wybodaeth orau sydd ar gael.

Roedd yn ofynnol i staff a phartneriaid NPAP gyflwyno data GIS i ddangos tystiolaeth o'u gwaith adfer. Crëwyd ffeiliau siâp ESRI gan ddefnyddio'r system gyfeirio ofodol OSGB 1936, wedi'u fformatio drwy ddefnyddio templed i safoni casgliadau data.

Ceir hyd i ragor o wybodaeth am y Map Adfer Mawndiroedd yma

Datganiad priodoli

Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.

Trwydded
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)

Darllenwch fwy am y drwydded hon

Hawlfraint:

Dim

Dyddiad cyhoeddi
Math
Data gofodol
Categori:
Amgylchedd

Adnoddau amgylcheddol, diogelu a chadwraeth. Enghreifftiau: llygredd amgylcheddol, storio a thrin gwastraff, asesu effaith amgylcheddol, monitro risg amgylcheddol, gwarchodfeydd natur, tirwedd

Chwiliwch am fwy o ddata yn y categori hwn.

Rhanbarthau
Global
Wedi'i gymeradwyo
Ydy
Cyhoeddwyd
Ydy
Wedi'i gynnwys
Nac ydy
Grŵp
Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwybodaeth

Maint gofodol
System daflunio
EPSG:27700
Estyniad x0
146597.199797902
Estyniad x1
355308.0
Estyniad y0
164586.296917809
Estyniad y1
395984.199957072

Nodweddion

Cyswllt

E-bost
opendata@naturalresourceswales.gov.uk
Sefydliad
Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeirnodau

Dolen ar-lein
/layergroups/geonode:nrw_npap_resto_activity
Tudalen fetadata
/layergroups/geonode:nrw_npap_resto_activity/metadata_detail

Diweddbwyntiau OWS

WMS
/capabilities/layergroup/6258/?ows_service=wms
WFS
/capabilities/layergroup/6258/?ows_service=wfs