Adfer Mawndir Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) yn cydlynu gwaith adfer mawndir ledled Cymru, ac yn rhoi adroddiadau i Lywodraeth Cymru a’r DU ar weithgarwch adfer.
Mae'r haen hon o Weithgareddau Adfer Mawndir Cymru yn cydgasglu mapiau o'r gwaith adfer a wnaed ledled Cymru yn uniongyrchol gan y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd (NPAP) yn CNC a hefyd gan ei sefydliadau partner.
Cyflwynir gweithgareddau adfer ar ffurf polygonau ac ynddynt briodoleddau sy'n dangos y math o weithgaredd yn fras, y safle, y sefydliad cyflawni, a dyddiad dechrau a gorffen y gwaith adfer.
Er mwyn sicrhau cysondeb a thryloywder wrth gofnodi ac adrodd data, diffinnir system adrodd safonedig yn Gweithgareddau adfer mawndiroedd yng Nghymru: dosbarthiad a chodau gweithgaredd. Rhennir gweithgareddau adfer yn fras i bum math o weithgaredd: Rheolaeth Hydrolegol, Rheoli Erydiad, Rheoli Coed, Rheoli Llystyfiant a Phori.
Nod Rheolaeth Hydrolegol yw gwrthdroi effaith gweithgareddau niweidiol sydd wedi arwain at newidiadau niweidiol i gyfundrefnau hydrolegol.
Nod Rheoli Erydiad yw lleihau effaith nodweddion erydiad fel migwyn a cheunentydd. Mae'r nodweddion hyn yn datgelu ardaloedd o fawn noeth sy'n dueddol o ddiraddio ymhellach os cânt eu gadael heb eu rheoli.
Nod Rheoli Coed yw lleihau effaith coed ar fawndir. Mae'r rhan fwyaf o dechnegau Rheoli Coed ar gyfer adfer mawndir yn cynnwys ymdrin â phlanhigfeydd conwydd. Ceir hefyd weithgareddau sy'n mynd i'r afael â phresenoldeb coed llydanddail.
Nod Rheoli Llystyfiant yw rheoli goruchafiaeth niferoedd bach o rywogaethau toreithiog (e.e. Molinia, Calluna) er mwyn sicrhau adferiad a pharhad llystyfiant corsydd.
Mae gweithgareddau pori yn anelu i adfer a rheoli mawndiroedd drwy addasu trefniadau pori.
Diweddarwyd y map hwn ddiwethaf i gynnwys gweithgareddau adfer a adroddwyd i 31 Mawrth 2026.
Caiff gweithgareddau adfer eu cofnodi i ddechrau gan NPAP a'i phartneriaid fel pwyntiau, polylinellau a pholygonau yn unol â Gweithgareddau adfer mawndiroedd yng Nghymru: dosbarthiad a chodau gweithgaredd. Yna caiff polygonau gweithgaredd adfer eu creu i gynrychioli'r ardal o fawndir a dargedir gan bob math o weithgaredd, yn unol â chonsensws a'r wybodaeth orau sydd ar gael.
Roedd yn ofynnol i staff a phartneriaid NPAP gyflwyno data GIS i ddangos tystiolaeth o'u gwaith adfer. Crëwyd ffeiliau siâp ESRI gan ddefnyddio'r system gyfeirio ofodol OSGB 1936, wedi'u fformatio drwy ddefnyddio templed i safoni casgliadau data.
Ceir hyd i ragor o wybodaeth am y Map Adfer Mawndiroedd yma
Datganiad priodoli
Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a Hawl Cronfa Ddata. Cedwir pob hawl.
Defnyddiwch y data hyn mewn cymhwysiad arall
Darllenwch y drwydded i ddeall amodau defnyddio'r data.
Dysgwch sut i ddefnyddio dyfeisiau OWS (WMS a WFS)
Data gofodol (1)
- Adfer Mawndir Cymru
Mapiau sy'n defnyddio'r data hyn (0)
Neu ddangos data ar fap cyfredol
- Math:
- Data gofodol
- Categori:
- Amgylchedd
- Dyddiad cyhoeddi:
- 02 Medi 2026
- Trwydded:
- Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus (OGL)
-
Hawlfraint:
- Pwynt cyswllt:
- opendata@naturalresourceswales.gov.uk
- Iaith
- Saesneg